Carchar i dreisiwr o Wrecsam am gysylltu â dynes 82 oed

  • Cyhoeddwyd
William Wayne EdwardsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd hefyd wedi achosi difrod troseddol i gar yr heddlu.

Mae treisiwr wedi ei garcharu am 26 mis ar ôl torri gorchymyn gwahardd oedd yn ei atal rhag cysylltu â merched oedrannus.

Fe dreuliodd William Wayne Edwards, 45 oed o Wrecsam 12 mlynedd yn y carchar am dreisio dynes 84 oed ac am dreisio a charcharu ar gam ddynes 82 oed.

Yn Llys y Goron Caernarfon cyfaddefodd iddo dorri'r gorchymyn wrth gyfarfod â dynes 82 oed a mynd â hi am ddiod.

Clywodd y llys ei fod yn "berygl" i ferched dros 80 oed.

Roedd y llys wedi clywed ei fod wedi bod yn "sgyrsio" â dynes 82 oed yn Llyfrgell Rhiwabon cyn mynd â hi i westy am ddiod.

Cafodd ei ddal pan gysylltodd staff y llyfrgell â'r heddlu.

Manylion cysylltu

Roedd y Gorchymyn Gwahardd Troseddau Rhywiol yn 2010 ar ôl iddo geisio cael manylion cysylltu oddi wrth ddynes 92 oed.

Cyfeiriodd Mr Cofiadur Winston Roddick QC at risg uchel Edwards "o niweidio merched dros 80 oed drwy ymosodiadau rhywiol difrifol".

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd.

Derbyniodd ddau fis ychwanegol am achosi difrod troseddol i gar yr heddlu.

Dywedodd tîm cyfreithiol Edwards fod y diffynnydd wedi bod yn rhwystredig ar y pryd oherwydd safon ei lety yn Wrecsam.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol