Cyngor Powys yn trafod codi ffermydd gwynt
- Cyhoeddwyd

Bydd cynghorwyr Powys yn ystyried dau gais cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt yn y sir ddydd Mawrth.
Mae'r ceisiadau'n ymwneud a chodi dwy fferm, un ger Llanbrynmair yn Sir Drefaldwyn ac un ar dir yn Llanbadarn Fynydd yn Sir Faesyfed.
Yn Llanbadarn Fynydd y bwriad yw codi 17 o dyrbinau ar uchder o 126 metr.
Mae'r cynllun yn ardal Llanbrynmair yn fwy, 50 o dyrbinau ar fynydd Carnedd Wen, y tyrbinau yn 137 metr o uchder.
Yn y canolbarth yn ddiweddar mae cynlluniau ffermydd gwynt wedi profi'n hynod ddadleuol.
Arwyddion
Yn ôl Craig Duggan, gohebydd BBC Cymru yn y canolbarth, mae teimladau yn gryf yn erbyn y cynlluniau ond mae yna hefyd gefnogaeth gan rai i'r cais yn Llanbrynmair.
"Ma' 'na arwyddion o blaid cynllun Carnedd Wen er enghraifft arwyddion ar y ffordd rhwng Mallwyd a'r Trallwng ar ffordd yr A458 sy'n ffinio pen gogleddodd Carnedd Wen.
"Y neges ar yr arwyddion yw y bydd y datblygiad yn creu swyddi yn lleol."
Un sydd o blaid y cynllun yw Aled Evans, ffermwr lleol.
Bydd o'n elwa o'r datblygiad gan y bydd yn rhaid croesi ei dir wrth godi'r fferm wynt ac mae'n dweud ei fod yn ffafrio ynni gwynt.
"Dwi ddim yn ei weld o'n fwgan mawr.
"Mae Carnedd Wen yn safle unigryw, mae e'n bell o unrhyw fan.
"Ydach, da chi'n mynd i'w gweld nhw ond alla i ddim credu bod ni sy'n byw yn lleol - a ni sydd yn byw yma nid y bobl sy'n gwrthwynebu - yda ni'n mynd i glywed y tyrbinau yma'r troi, mae'n amheus gen i."
Ond mae'r gwrthwynebiad yn y sir hefyd yn gref, a bydd disgwyl presenoldeb ymgyrchwyr wrth i'r cynghorwyr gwrdd yn Llandrindod.
Mae ardal Powys un un o'r rhai sydd wedi ei dargedu gan y Llywodraeth ar gyfer datblygu ynni gwyrdd.
Targedau
Un o dargedau Llywodraeth San Steffan yw lleihau nifer yr allyriadau carbon a hefyd ceisio cynhyrchu 30% o ynni Prydain o ffynonellau adnewyddol.
Ond dywed Myfanwy Alexander, un o'r rhai sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau, fod angen bod yn ofalus wrth osod targedau o'r fath.
"Mae'r targedau hyn wedi eu creu heb gymryd ystyriaeth yr effaith mae'r cynlluniau yn mynd i'w gael ar yr ardaloedd sydd wedi eu targedu gan y polisi Tan 8
"De ni'n teimlo nad ynni gwynt yw'r ffordd wyrddach i gyflawni'r rhain, yn enwedig pan rydym yn son am roi tyrbinau ar gorsydd mawn, corsydd sydd ar hyn o bryd yn sugno cyfanswm sylweddol o garbon o'r awyr."
Er bod cais i godi fferm wynt yn ardal Llanidloes wedi cael ei wrthod gan y sir yr wythnos diwethaf, nid Cyngor Powys fydd â'r gair olaf ynglŷn â'r ddau gais sy dan ystyriaeth heddiw.
Bydd penderfyniad Powys yn rhan o'r broses ymgynghori ond yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn San Steffan fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012