Enwi dyn wedi damwain Abertawe dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De wedi cyhoeddi enw dyn 21 oed fu farw mewn damwain beic modur yn Abertawe fore Sul.

Roedd Andrius Zalikas yn teithio ar yr A483, Ffordd Fabian, ar feic modur Kawasaki ER-5 glas pan ddigwyddodd y ddamwain wrth ynys groesi ger cyffordd.

Aed ag ef i Ysbyty Treforys yn y ddinas gyda nifer o anafiadau a bu farw'n ddiweddarach.

Bu'r ffordd ar gau am bedair awr a hanner tra bod yr heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar Abertawe 01792 456999 neu 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.