Treisio: Dynes yn colli ei hapêl

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes gafodd ei charcharu am wyrdroi cwrs cyfiawnder wedi colli ei hapêl yn erbyn y dyfarniad.

Roedd y ddynes 29 oed o Bowys wedi cael hawl yn Nhachwedd 2010 i herio'r ddedfryd a chael gwrandawiad apêl llawn.

Ond ddydd Mawrth penderfynodd y Llys Apêl yn Llundain wrthod ei honiad fod y dyfarniad yn "anniogel."

Yn 2010 penderfynodd yr Uchel Lys mai ei dedfryd oedd gwaith cymunedol a gorchymyn goruchwylio am ddwy flynedd nid carchar.

Roedd y fenyw, sydd heb ei henwi, wedi honni bod ei gŵr wedi ei threisio.

Yn ddieuog

Yn 2009 cafodd ei gyhuddo o chwe achos o dreisio a phlediodd yn ddillwng cyhuddiad cywir.euog.

Yn fuan wedi hynny dywedodd nad oedd hi am roi tystiolaeth yn ei erbyn.

Yna dywedodd wrth yr heddlu fod ei chyhuddiadau yn gelwydd.

Yn wreiddiol, cafodd ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy wneud cwyn ffug a phenderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ei herlyn am o

Yn y pen draw ni chafodd unrhyw dystiolaeth ei chynnig yn erbyn ei gŵr.

'Difrifol'

Ddydd Mawrth dywedodd tri barnwr yn y Llys Apêl: "Y gwirionedd yw bod y sawl sy'n apelio yn euog o drosedd difrifol ...

"Ond dylai cydymdeimlo gyda'i sefyllfa neu unrhyw fenyw yn ei sefyllfa fod wedi arwain at ddedfryd ar wahân i garcharu.

"Dyna pam y gweithredodd y llys hwn yn gyflym a dileu dedfryd o garchar.

"... ond ni allwn ni atal statud ac nid oes modd i ni ymyrryd â'r dyfarniad gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

"Rhaid gwrthod yr apêl."