Cyngor Conwy i drafod cynllun Y Foryd
- Cyhoeddwyd

Mae rhan nesaf cynllun gwerth miliynau o bunnoedd i adfywio harbwr Y Rhyl yn debygol o gael ei chymeradwyo yn ddiweddarach.
Mae cynllun Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Y Foryd yn cynnwys codi caffi, pont ar gyfer cerddwyr a seiclwyr, a sgwâr cyhoeddus newydd.
Mae'r prosiect wedi bod ar y gweill ers Ionawr 2011 ond yn awr fe fydd y cais cynllunio yn cael ei drafod gan Gyngor Conwy am fod y tir ar y ffin rhwng y ddwy sir.
Mae swyddogion yn argymell y dylai cynghorwyr gymeradwyo'r cynllun mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Siopau
Mae gwaith adeiladu gwerth £10.4m i wella amddiffynion arfordirol gorllewin Y Rhyl ger y safle arfaethedig eisoes wedi dechrau.
Hefyd mae Y Foryd yn agos i safle hen ffair Y Rhyl lle mae cynllun i ddatblygu'r safle hwnnw wedi dod i stop gan arwain at alwadau i adfer yr ardal honno.
Mae cynllun Cyngor Sir Ddinbych gwerth £9.9 miliwn ac yn cynnwys estyn y morglawdd presennol a chreu 100 o lefydd angori ar gyfer cychod.
Mae yna fwriad hefyd i godi siopau, pont, a llefydd bwyta fel rhan o'r prosiect.
Ym mis Tachwedd y llynedd cytunodd cynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych glustnodi £500,000 ychwanegol ar gyfer cynllun Y Foryd.
Mae'r cynllun yn rhan o brosiect ehangach i adfywio gogledd Cymru sy'n cael ei ariannu'n bennaf drwy Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Ym mis Chwefror 2011 fe wnaeth cynghorwyr Sir Ddinbych roi sêl bendith ar gyfer y cynllun.
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Mawrth 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2011
- Cyhoeddwyd9 Mai 2011