Dŵr: Helpu Lloegr yn 'rhy gostus'

  • Cyhoeddwyd

Wrth i saith gwmni dŵr yn Lloegr gyflwyno gwaharddiadau oherwydd sychder, mae 'na alw am ddefnyddio dŵr o rannau eraill o Brydain i ddiwallu'r angen.

Yng Nghymru does dim arwydd o sychder ac mae'r cronfeydd yn llawn.

Ond mae Dŵr Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai defnyddio dŵr o Gymru i leddfu'r broblem yn anymarferol.

Dywedodd Nigel Annett, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni: "Yn sicr, o safbwynt peirianyddol, mae'n bosib ond bydd y gost yn afresymol.

"Yn 2006, pan ystyriwyd hyn o ddifri, yr amcangyfri oedd y byddai'n ddeg gwaith yn fwy costus nac opsiynau eraill ac y byddai'r effaith ar yr amgylchedd yn anferth.

'Yn rhatach'

"Fe fyddwn i wrth fy modd yn gwerthu dŵr am elw mawr a sicrhau y byddai biliau cwsmeriaid yn rhatach.

"Ond mae dŵr yn gynnyrch trwm iawn. Wrth ei gludo mae'r gost yn codi'n fawr iawn."

Dywedodd y byddai trosglwyddo ar raddfa fawr i rannau eraill o Brydain yn golygu llawer o bympio ac oherwydd costau ynni, y byddai'r cwmnioedd yn Lloegr yn chwilio am atebion eraill.

Ddydd Llun cyhoeddodd saith gwmni yn ne a dwyrain Lloegr y byddai'r gwaharddiad yn dechrau Ebrill 5.

Roedd hyn, medden nhw, oherwydd, dau aeaf anarferol o sych.

Ym Mehefin 2011 awgrymodd Maer Llundain, Boris Johnson, y dylid trosglwyddo cyflenwadau o Gymru a'r Alban i ardaloedd lle oedd sychder yn ne a dwyrain Lloegr.

'Ystyried'

Dywedodd Alun Attwood o Asiantaeth yr Amgylchedd: "Mae angen ystyried yn fanwl a oes digon o ddŵr yng Nghymru i gefnogi Grid Cenedlaethol neu drosglwyddo dŵr ar raddfa fawr dros y ffin.

"Yn ddiweddar, mae rhagolygon yn awgrymu na fyddai digon yng Nghymru i ddarparu mwy o ddŵr i Loegr."

Yn Chwefror dywedodd Sefydliad y Peirianwyr Suful fod angen newid dulliau rheoli dŵr.

Ar y pryd dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi cysylltu â nhw oherwydd problemau sychder.

Ond dywedodd y byddai rhaid cael gwerth am "adnodd hanfodol" ac y byddai rhaid gwarchod amgylchedd Cymru.