Effaith budd-dal ar famau a phlant Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae elusen Achub y Plant yn rhybuddio y bydd mamau yng Nghymru'n diodde' tlodi oherwydd effaith newidiadau Llywodraeth y DU i'r system les.
Yn ôl adroddiad gan yr elusen, gallai bron i 54,000 o famau sengl sydd mewn gwaith golli cymaint â £68 yr wythnos o dan y drefn Credyd Cynhwysol, fyddai'n rhoi nifer o deuluoedd mewn trafferthion.
Mae Achub y Plant hefyd yn rhybuddio y bydd y newidiadau'n effeithio ar ferched sy'n dod ag ail gyflog i'r cartref - gyda rhai teuluoedd yn colli hyd at £1,800 mewn blwyddyn.
Ond mae Llywodraeth Prydain yn gwadu hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau bod yr elusen yn "anghywir" ac yn "bod yn ffuantus".
Yng Nghymru, mae nifer y merched di-waith ar ei lefel ucha' ers 23 mlynedd - gyda chynnydd o 6% mewn blwyddyn.
Dywed yr elusen fod dros 49,000 o ferched heb waith ar amser pan mae mamau eisoes yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd oherwydd toriadau mewn cymorth gyda gofal plant, budd-dal plant a chredydau treth.
Dyled
Yn ôl arolwg barn diweddar gan Achub y Plant a gwefan Netmums, mae 56% o famau di-waith yn y DU yn dweud mai costau uchel gofal plant oedd y prif reswm dros beidio cael swydd.
Sian Elin Dafydd yn holi Eurgain Haf o Gymdeithas Achub y Plant
Wrth lansio ymgyrch newydd i gefnogi mamau, mae'r elusen yn rhybuddio y gallai nifer o famau yng Nghymru sydd ar incwm isel gael eu gorfodi i weithio oriau ychwanegol neu fynd i ddyled.
Honnai'r elusen hefyd y bydd y newidiadau arfaethedig yn ei gwneud hi'n llai deniadol i rieni chwilio am swyddi yn hytrach na dibynnu ar fudd-daliadau.
"Mae diweithdra ymysg merched ar gynnydd ac, wrth gwrs, mae mamau yn teimlo'r esgid fach yn gwasgu oherwydd y cynnydd mewn prisiau bwyd a phrisiau tanwydd," meddai Eurgain Haf o Achub y Plant.
"Maen nhw hefyd yn gweld y gwahaniaeth o ran darpariaeth a chostau gofal plant ac yn darganfod fod hyn yn prisio nifer o famau, sydd eisiau mynd yn ôl i'r gwaith, rhag gallu gwneud hynny.
"Mae'r ymchwil gan Achub y Plant yn dangos fod rhai o'r newidiadau y mae'r llywodraeth yn mynd i'w cyflwyno yn sgil y Credyd Cynhwysol newydd yn mynd i daro rhai categorïau o famau - yn enwedig mamau sengl - yn fwy nag eraill, ac mae hynny'n bryder i ni."
Ailystyried?
Mae'r elusen nawr yn galw ar y Canghellor, George Osborne, i ailystyried y newidiadau arfaethedig.
Maen nhw eisiau sicrhau bod mamau sengl sydd mewn gwaith yn cadw mwy o'u hincwm cyn colli eu budd-daliadau, gan mai nhw yw'r unig rai sy'n dod â chyflog i'r cartref.
Maen nhw hefyd n galw ar rai sy'n ennill ail gyflog i gael cadw'r £2,000 cyntaf cyn colli eu budd-dal.
Yn ôl yr elusen, dylid cynyddu'r cymorth i dalu costau gofal plant i deuluoedd ar incwm isel o 70% i 80%, i sicrhau bod mamau yn gallu fforddio i fynd yn ôl i'r gwaith.
Mae ymgyrch ddiweddara' Achub y Plant yn cael ei lansio ar drothwy Sul y Mamau ac wrth i'r Canghellor baratoi i gyflwyno ei gyllideb ar Fawrth 21.
Straeon perthnasol
- 28 Chwefror 2012
- 5 Ionawr 2012
- 22 Hydref 2011
- 5 Gorffennaf 2011