Angen cadw llygad ar lefelau dŵr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn rhybuddio y dylai Cymru fod yn wyliadwrus i sicrhau bod lefelau dŵr ddim yn gostwng gormod.
Dywedodd cyfarwyddwr yr asiantaeth, Chris Mills, fod gan y wlad ddigon o ddŵr "ar hyn o bryd".
Ond ychwanegodd na fyddai modd cymryd mwy o ddŵr o rai afonydd heb niweidio'r amgylchedd.
Yn y cyfamser, mae Dŵr Cymru wedi dweud y byddai'n "rhy gostus" i roi dŵr i leddfu problemau sychder mewn rhannau o Loegr.
Dywedodd yr asiantaeth fod tywydd eithriadol o sych dros y blynyddoedd diwetha' wedi golygu bod rhannau o Gymru'n agos at gael problemau sychder, gyda lefel rhai afonydd yn isel.
Fe rybuddion nhw y gallai'r sefyllfa waethygu ac effeithio ar fywyd gwyllt mewn afonydd petai'r tywydd yn parhau yn sych dros y gwanwyn a'r haf.
Newid hinsawdd
Mae'r asiantaeth yn dweud bod ganddyn nhw gynllun ar gyfer Cymru petai hyn yn digwydd, ac ychwanegon nhw fod y wlad yn debygol o wynebu pwysau ar ei hadnoddau dŵr yn y dyfodol yn sgil newid hinsawdd.
"Er bod 'na ddigon o ddŵr yng Nghymru ar hyn o bryd, ddylen ni ddim anwybyddu'r sefyllfa," meddai Mr Mills.
"Rydyn ni'n credu fod rhai afonydd wedi cyrraedd eu terfyn o ran faint o ddŵr sydd ar gael i'w gymryd heb niweidio'r amgylchedd.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod yna ddigon o ddŵr ar gael i bobl a busnesau, yn ogystal â bywyd gwyllt sy'n dibynnu ar y dŵr yn ein hafonydd."
Dywedodd Mr Mills y gallai rhywogaethau pwysig o bysgod fel eog a gleisiaid fod mewn perygl petai lefelau dŵr yn mynd yn isel.
Gallai lefelau isel hefyd waethygu unrhyw achos o lygru, meddai.
Ychwanegodd fod yr asiantaeth yn cydweithio gyda chwmnïau dŵr a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yna ddigon o ddŵr ar gyfer pawb sydd ei angen.
Dydd Llun dywedodd Dŵr Cymru y byddai defnyddio dŵr o Gymru i leddfu problemau sychder yn Lloegr yn anymarferol, yn ddrud ac y gallai fod yn niweidiol i'r amgylchedd.
Dywedodd Nigel Annett, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni: "Yn sicr, o safbwynt peirianyddol, mae'n bosib ond bydd y gost yn afresymol.
Mewn uwchgynhadledd sychder fis diwetha' roedd 'na alwadau am well cydweithio rhwng cwmnïau dŵr.
Tywydd sych
Dydd Llun cyhoeddodd saith o gwmnïau yn Lloegr eu bod yn gwahardd y defnydd o bibelli dŵr o Ebrill 5.
Dywedon nhw fod hyn yn dilyn dau aeaf eithriadol o sych, sydd wedi gadael lefelau mewn cronfeydd ac afonydd yn isel.
Ym mis Mehefin 2011 awgrymodd Maer Llundain, Boris Johnson, y dylid trosglwyddo cyflenwadau o Gymru a'r Alban i ardaloedd lle oedd sychder yn ne a dwyrain Lloegr.
Ym mis Chwefror eleni dywedodd Sefydliad y Peirianwyr Sifil fod angen newid dulliau rheoli dŵr.
Ar y pryd dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi cysylltu â nhw oherwydd problemau sychder.
Ond dywedodd y byddai rhaid cael gwerth am "adnodd hanfodol" ac y byddai rhaid gwarchod amgylchedd Cymru.
Straeon perthnasol
- 12 Mawrth 2012
- 21 Chwefror 2012
- 22 Mehefin 2011
- 14 Mehefin 2011