Pryder am ddyn 78 oed o ardal Machynlleth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys yn bryderus am ddyn 78 oed o ardal Machynlleth.

Cafodd John William Davies ei ddisgrifio fel dyn gwyn tenau rhwng 5 troedfedd 9 modfedd a 5 troedfedd 10 modfedd o daldra a gwallt brith.

Roedd yn gwisgo trowsus cordyroi golau, crys golau a siwmper lliw brown golau ac esgidiau brown.

Cafodd Mr Davies ei weld diwethaf yn ardal Taliesin, rhwng Aberystwyth a Machynlleth tua 10am ddydd Llun.

Mae ganddo gar Rover 45 coch tywyll a rhif cofrestru W163 GEJ.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am Mr Davies, fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol