Tri'n anelu am drydedd Gamp Lawn o fewn wyth mlynedd
- Cyhoeddwyd

Gallai enwau tri o aelodau carfan Cymru fod yn y llyfrau hanes os yw Cymru'n trechu Ffrainc ddydd Sadwrn.
Mae Adam Jones, Gethin Jenkins a Ryan Jones eisoes wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith.
Os oes buddugoliaeth yn Stadiwm y Mileniwm dros y penwythnos bydd y tri'n ennill eu trydedd Gamp Lawn.
Fe fyddan nhw'n ymuno â'r tri o'r 1970au, Gerald Davies, JPR Williams a Gareth Edwards, gyflawnodd y gamp.
Dywedodd un o'r hyfforddwyr, Robin McBryde, fod profiad Adam, Gethin a Ryan yn allweddol ym mharatoadau'r garfan.
Tri mewn wyth tymor
"Mae eu dylanwad ar y chwaraewyr yn allweddol.
"Fe fyddwn ni'n disgwyl iddyn nhw rannu eu gwybodaeth gyda'r rhai iau yn ystod yr wythnos."
Os ydyn nhw'n llwyddo, hon fydd trydedd Gamp Lawn Cymru mewn wyth tymor.
Mike Ruddock oedd wrth y llyw yn 2005 pan wnaeth y tîm cenedlaethol ennill y Gamp Lawn, y tîm cyntaf i wneud hynny, gan chwarae mwy o gemau oddi cartref nac adref.
Erbyn 2008 roedd yr hyfforddwr presennol, Warren Gatland, wrth y llyw.
Y gêm ddydd Sadwrn fydd y tro cyntaf i Gymru wynebu Ffrainc ers iddyn nhw golli o 9-8 yn eu herbyn yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd fis Hydref.
'Symud ymlaen'
"Fe ddylen ni fod wedi ennill y gêm yna ond wnaethon ni ddim," meddai Adam.
"Rydyn ni wedi symud ymlaen. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddydd Sadwrn a ddim yn poeni am y gorffennol."
Ond fe fydd y garfan yn gallu dygymod â hynny, meddai.
"Rydyn ni'n ymwybodol o'r hyn sy'n mynd ymlaen ac mae'n wythnos fawr, wythnos y Gamp Lawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2012