Diwedd y daith i furlun Siartwyr yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Golygfa o'r murlunFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r murlun yn adrodd hanes gwrthdaro gwaedlyd rhwng protestwyr a lluoedd y tu allan i Westy'r Westgate yn 1839

Bydd murlun 35 metr (115 troedfedd) yn darlunio rôl hanesyddol Casnewydd mewn diwygio democratiaeth yn cael ei dynnu lawr i wneud lle ar gyfer datblygiad siopa gwerth £100 miliwn.

Yn 1839 mi fu'r Siartwyr yn protestio yng Nghasnewydd ac yn Llanidloes gan alw am roi cyfle i'r werin - dynion o'r dosbarth gweithiol - i gael bwrw eu pleidlais.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gofnodi mewn gwaith celf, sydd wedi'i wneud o 200,000 darn o deils a gwydr ger y fynedfa i Sgwâr John Frost yn y ddinas.

Cafodd ei gwblhau yn 1978 ac roedd bygythiad y byddai'n cael ei ddymchwel yn 2009 ond wnaeth y cynllun hwnnw ddim dwyn ffrwyth.

Mae ymgynghoriad ar bedwar opsiwn i newid y murlun bellach wedi dod i ben.

Nawr mae cynghorwyr yn ystyried yr ymatebion, ond mae'r awdurdod lleol yn mynnu y bydd yn rhaid tynnu'r murlun i lawr o'i safle presennol fel rhan o gynllun i newid canol y ddinas.

Marwolaethau

Mae'r murlun yn dathlu'r gwrthryfel gwaedlyd dan ofal arweinydd y Siartwyr, John Frost - ynad a maer Casnewydd, a gollodd ei swydd oherwydd ei safbwyntiau radicalaidd.

Fe arweiniodd 3,000 o bobl i mewn i'r ddinas gan achosi gwrthdaro gyda milwyr oedd wedi'u lleoli y tu allan i Westy Westgate yn y ddinas.

Bu farw nifer o'r protestwyr yn ystod y gwrthdaro.

Cafwyd Frost yn euog o deyrnfradwriaeth ac roedd i fod i gael ei grogi ond cafodd ei alltudio.

Fe oroesodd a dychwelodd i Brydain yn ddiweddarach, ble y parhaodd i ymgyrchu dros ad-drefnu gwleidyddol hyd nes ei farwolaeth, yn 93 mlwydd oed.

Cafodd y murlun yng Nghasnewydd ei greu gan yr arlunydd, Kenneth Budd.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y gwaith celf, a gwblhawyd yn 1978, yn cael ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer datblygiad siopa

Mae gan Gyngor Casnewydd £50,000 i gomisiynu gwaith celf arall yn y ddinas ond maen nhw'n dadlau y byddai ail-greu'r murlun cyfan yn costio pedair gwaith cymaint ag nad yw hynny'n fforddiadwy.

Cafodd y cyhoedd gyfle i fynegi barn ar bedwar opsiwn.

Y dewis cynta' fyddai ail-greu'r murlun ar deils ceramig ar y grisiau yn llyfrgell y ddinas ar gost o £22,000.

Yr ail oedd comisiynu mab yr artist gwreiddiol i ailgreu rhan o'r murlun ar gost o £50,000.

Trydydd opsiwn fyddai creu dehongliad newydd o'r murlun ar safle arall yn y ddinas, a'r dewis olaf oedd creu gwaith celf arall ar thema'r Siartwyr, o garreg er enghraifft.

Cywirdeb hanesyddol

Yn ôl Oliver Budd, sydd â'r hawlfraint dros y murlun, roedd ei dad wedi ymchwilio i hanes y gwrthryfel am bedwar mis cyn dechrau ar y gwaith.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Gwelir Kenneth Budd yma yn gweithio ar ddraig efydd, sydd bellach ger Castell Casnewydd

"Dywedodd bod yn rhaid i bopeth fod yn berffaith, yn enwedig gan fod 'na gymaint o arbenigwyr ar y rhan arbennig yma o hanes lleol," meddai.

"Fe weithiodd gyda phobl yr amgueddfa i gael union fanylion y stori. Mae 'na lawer o ddillad y Siartwyr i'w gweld yn y murlun sydd hefyd yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa."

Dywedodd Mr Budd fod ei dad wedi gweithio ar gannoedd o baneli metr-sgwâr yn ei weithdy yng Nghaint, a gafodd eu gosod yn eu lle wedyn yng Nghasnewydd.

Fe ymunodd gyda'i dad bum mlynedd ar ôl i'r murlun gael ei gwblhau a gweithiodd gydag ef tan ei farwolaeth.

Ychwanegodd Mr Budd: "Byddwn yn hoffi gweld y gwaith yn cael ei gadw mewn rhyw ffurf.

"Mae'n waith arbennig o gelf, sydd hefyd yn addysgol a deniadol.

"Rwyf hefyd yn deall mai datblygiad a ddaeth â'r murlun yn y lle cynta', ac felly bydd yn rhaid addasu wrth i'r ddinas newid eto."

Bydd y cyngor yn dewis un o'r pedwar opsiwn, gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol