Gŵyl lenyddol newydd yng Nghastell Dinefwr
- Cyhoeddwyd

Fe fydd gŵyl lenyddol newydd yn ardal Caerfyrddin yn cael ei chynnal am dridiau dros yr haf.
Cynhelir Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr ger Llandeilo rhwng Mehefin 29 a Gorffennaf 1.
Yn ôl trefnwyr yr ŵyl ddwyieithog gyntaf o'i fath mae nifer eisoes wedi cytuno i gymryd rhan.
Ymhlith y rhain y mae Gruff Rhys, yr hanesydd John Davies, Rhys Iorwerth, Dewi Prysor, Criw Dal dy Dafod, Twm Morys, Ed Holden a Cowbois Rhos Botwnnog.
Hefyd mae Gillian Clarke, Julian Cope, Syr Andrew Motion a Howard Marks i'w gweld yno.
Llenyddiaeth Cymru sy'n trefnu'r digwyddiad gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phrifysgol Y Drindod a Dewi Sant fel rhan o brosiect Ewropeaidd y Coracle sy'n hybu diwylliant Cymru.
Yn ôl Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, nod yr ŵyl yw llenwi bwlch yng nghalendr diwylliannol Cymru tu hwnt i ŵyl Llyfrau Y Gelli a'r Eisteddfod Genedlaethol.
At ddant pawb
"Roeddem yn teimlo bydde'n dda cynnal gŵyl ddwyieithog, a hefyd gŵyl sy'n efelychu gwyliau mae nifer o staff Llenyddiaeth Cymru yn mynychu'n aml, fel y Green Man yn Lloegr," meddai.
"Digwyddiad awyr agored mewn llecyn hynod hardd yn yr haf fydd hyn gyda rhywbeth wrth ddant pawb o bob oedran.
"Mae teuluoedd yn ganolog i feddyliaeth yr ŵyl hon."
"Rydym yn gytûn bod rhywbeth arbennig am Ddinefwr sy'n benthyg ei hun i ŵyl lenyddol.
"Mae yna hanes anghredadwy o ran y Tywysogion cynnar a'r Deheubarth ac mae Hywel Dda a Rhodri Fawr yn gysylltiedig â'r lle.
"Mae'n teimlo fel bod hanes Cymru i gyd yn dod yn ôl i Ddinefwr a hoffwn ei feddiannu unwaith eto."
Eglurodd mai'r nod yw gofyn i'r awduron a cherddorion sydd am gymryd rhan hefyd droi eu doniau at rywbeth annisgwyl.
"Mae Gruff Rhys am gymryd rhan yng nghlwb llyfrau Brautigan, awdur cwlt o America - mae 'na glwb o'r fath yn Llundain," meddai.
"Er nad yw'n awdur plant, bydd Howard Marks yn adrodd ei hoff straeon i blant.
"Wrth gael rhywun mor garismatig â fe, gyda'i lais hudolus, yn darllen straeon bydd pawb siŵr i gysgu gyda breuddwydion melys iawn!"
Bydd y canwr Gareth Bonello hefyd yn tywys ymwelwyr ar daith natur trwy goedwig Dinefwr a John Davies a Prys Morgan yn sôn am hanes y castell.