Pryder am waith ar dai cymunedol
- Cyhoeddwyd

Mae cytundeb cwmni sy'n gweithio ar gynllun i wella tai cymunedol yng Ngwynedd wedi cael ei ddirwyn i ben.
Roedd nifer o gwynion tenantiaid yn Nyffryn Nantlle ynglŷn â'r gwaith oedd yn cael ei wneud ar eu cartrefi fel rhan o gynllun Cartrefi Cymunedol Gwynedd.
Y corff sydd wedi bod yn gyfrifol am y tai ers mis Ebrill 2010.
Fel rhan o'r cytundeb roedd 'na gynllun gwerth £136m dros bum mlynedd i adnewyddu 6,000 o gartrefi.
Dywedodd llefarydd ar ran CCC fod 'na nifer o "broblemau cychwynnol" a bod un contractiwr, cwmni Apollo, wedi gadael wedi i'r ddwy ochr gytuno mai dyna fyddai orau.
Roedd rhai o denantiaid Stad Bro Silyn yn Nhalysarn wedi cwyno am ansawdd y gwaith, gan gyhuddo'r contractwyr o "flerwch" a "diffyg trefn".
'Gwarthus'
Yn ôl Emlyn Jones, un o'r tenantiaid: "Mae o 'di bod yn warthus i fod yn onest i rai pobl. Fy hun, yr unig drafferth 'dwi wedi ei gael ydy hefo agwedd y contractwyr - Apollo yn enwedig. Y gweithwyr maen nhw wedi eu rhoi i mewn - 'does ganddyn nhw ddim profiad hefo'r gwaith."
Dywedodd un arall o'r tenantiaid, Graham Humphreys, fod cwmni arall, nid Apollo, wedi gadael gwifren drydanol fyw uwchben y baddon am wythnos.
"O'n i wedi dychryn," meddai. "Fasa un o fy mhlant i wedi gallu marw."
Dywedodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd, fod 'na nifer o resymau dros ddod â'r cytundeb gydag Apollo i ben.
"Un oedd lefel y perfformiad oedden ni'n ei diodde'," meddai. "Y rheswm arall oedd edrych ymlaen i'r dyfodol - capasiti'r contractwyr i gynyddu'r niferoedd o dai oedden nhw'n gallu gweithio arnyn nhw."
'Maes newydd'
Roedd Mr Williams yn cydnabod bod 'na "flerwch" ar ddechrau'r cytundebau a bod hynny wedi ei siomi.
"Doedd o ddim oherwydd diffyg ymdrech ar ein hochr ni na'r contractwyr chwaith a bod yn deg - ond roedd o'n faes newydd."
Mynnodd fod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r sefyllfa a bod y corff "wedi dysgu gwersi" ac na fyddai rhywbeth tebyg yn digwydd eto.
Mae 'na drafodaethau eisoes yn cael eu cynnal gyda chwmni arall i gwblhau'r gwaith ar y cartrefi.
Ond fe fydd 'na oedi i ryw 70 o drigolion yn ardal Penygroes.