BBC Cymru Fyw

Caerdydd 0-3 Hull

Published
image copyrightNot Specified
Caerdydd 0-3 Hull
Mae Caerdydd wedi cael clec i'w gobeithion o esgyn i'r Uwchgynghrair wedi iddynt golli i Hull yn Stadiwm Caerdydd nos Fawrth.
Mae Caerdydd yn awr yn y seithfed safle yn y Bencampwriaeth ac o ganlyniad maen nhw wedi disgyn o safleoedd y gemau ail gyfle.
Sgoriodd Hull, sydd yn awr yn y chweched safle yn y Bencampwriaeth, eu gôl gyntaf pan darodd Kevin McNaughton y bêl i rwyd ei hun wedi chwe munud.
Sgoriodd James Chester ail gôl yr ymwelwyr ar ôl dim ond munud o'r ail hanner yn dilyn gwaith gwych gan Robert Koren.
Seliodd Aaron McLean y fuddugoliaeth i'r Teigrod wedi 54 munud er bod cefnogwyr yr Adar Gleision yn mynnu ei fod yn gam sefyll.
Bydd gêm nesaf Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn erbyn Burnley yn Stadiwm Caerdydd ddydd Sul (3pm).