Ebbsfleet 0-5 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Ebbsfleet 0-5 Wrecsam
Mae Wrecsam wedi cau'r bwlch rhyngddynt a Fleetwood, y tîm sydd ar frig y gynghrair, i dri phwynt ar ôl buddugoliaeth y Dreigiau oddi cartref yn Ebbsfleet nos Fawrth.
Llwyddodd Mansfield i atal Fletwood rhag ennill eu seithfed gêm o'r bron drwy gael gêm gyfartal yn erbyn y tîm ar y brig.
Mae hyn yn golygu gallai Wrecsam godi i frig y tabl pe baen nhw'n ennill eu gêm mewn llaw.
Agorodd Mathias Pogba y sgorio yn erbyn Ebbsfleet gyda pheniad ar ôl 26 munud a dyblodd y rheolwr Andy Morrell y fantais i'r Dreigiau ddwy funud cyn yr egwyl.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r tîm cartref pan sgoriodd Steven Leslie drydedd gôl Wrecsam wedi 56 munud.
Sgoriodd Morrell ei ail gôl 11 munud yn ddiweddarach pan rwydodd yn dilyn ergyd nerthol o'r tu mewn i'r cwrt cosbi.
Rhwydodd Jake Speight gyda chic o'r smotyn ar ôl 77 munud wedi i Tom Phipps droseddu yn y cwrt cosbi.
TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE