Carwyn Jones i gyhoeddi cynlluniau ynni Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi cynlluniau cynhyrchu ynni Llywodraeth Cymru.

Roedd hyn ym Mharc Ynni Baglan ger Port Talbot.

Datgan y mae dogfen "Ynni Cymru" sut mae'r llywodraeth am weld cwmnïau a chymunedau yn elwa ar y gwaith ddaw yn y sector ynni.

Ymhlith yr ymrwymiadau mae gwella'r seilwaith ynni a gwella'r gyfundrefn gynllunio.

Cyfeiriodd Mr Jones at gyfle euraidd busnesau a'r swyddi allai gael eu creu petai cynlluniau ynni yn cael eu cymeradwyo.

'Gosod y sylfeini'

"Mae ynni yn faes sy'n diffinio ein cenhedlaeth. Mae'n faes yr wyf am inni arwain fel llywodraeth.

"Ein nod yw creu economi carbon isel sy'n ein harwain i ddyfodol llewyrchus yng Nghymru.

"Does dim dwywaith bod newid hinsawdd a diogelu ffynonellau ynni yn mynd i fod yn her ond mae'r heriau hyn hefyd yn gyfle euraidd i Gymru arwain y ffordd i greu economi carbon isel a gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol gwell a gwneud y gorau o'r manteision hirdymor i Gymru bob cam o'r ffordd."

Bydd y cynllun yn ceisio hoelio sylw ar fusnes ac arian - ac y gallai hyd at £50 biliwn gael ei fuddsoddi rhwng 2012 a 2025 - cyn belled â bod yr holl gynlluniau arfaethedig yn cael caniatâd cynllunio awdurdodau lleol neu Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth Prydain.

Ddydd Mawrth fe benderfynodd Cyngor Sir Powys i wrthwynebu cais i godi dwy fferm wynt fawr.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mi fydd y cynllun yma yn ceisio hoelio sylw ar fusnes ac arian

Gwrthodwyd cais am fferm wynt fechan wythnos yn ôl hefyd.

Ymysg ymrwymiadau'r llywodraeth mae:

  • Sicrhau bod pob punt sy'n cael ei buddsoddi mewn ynni yn cyfrannu at economi a chyfoeth hirdymor Cymru;
  • Gwella'r gyfundrefn cynllunio a sefydlu gwell seilwaith ynni;
  • Helpu busnesau Cymru i allu cystadlu am gontractau ynni i sicrhau'r nifer mwyaf o swyddi a'r manteision economaidd mwyaf.

'Tro pedol'

Cyn y cyhoeddiad dywedodd Russell George, AC, llefarydd amgylchedd y Ceidwadwyr: "Er nad yw'r ymrwymiadau bras hyn yn glir, maen nhw'n awgrymu bod y Prif Weinidog wedi sylweddoli o'r diwedd bod gan gynllun polisi TAN 8 ddiffygion sylfaenol a bod angen gwelliannau arno.

"Mae hwn yn dro pedol sy'n hir-ddisgwyliedig.

"Rwy'n awyddus i dderbyn mwy o fanylion ynglŷn ag ystyr "gwella'r gyfundrefn cynllunio".

TAN 8 ydy polisi Llywodraeth Cymru a sefydlwyd yn 2005 i gael saith ardal benodol ble gallai cwmnïau ynni gyflwyno cais i adeiladu ffermydd gwynt.

Mae gwrthwynebwyr y polisi yn gofyn am adolygiad - er nad oes argoel eto y bydd y llywodraeth hon yn cydsynio i hynny.

Dywedodd Gerry Jewson, cadeirydd a phrif weithredwr y datblygwyr ynni gwynt annibynnol, West Coast Energy, sydd wedi'u lleoli yn Sir Y Fflint er 1996: "Rydym yn hyderus bod y Llywodraeth wedi gwrando ar gynrychiolaethau holl ddeiliad diddordeb yn nyfodol adnewyddol Cymru a'u bod yn deall y materion sydd o dan sylw."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol