Twyllwraig budd-dal yn gwerthu ei chartref

  • Cyhoeddwyd
Annunziatina AttanasioFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Annunziatina Attanasio yn hawlio'r lefel uchaf o fudd-daliadau anabledd pan gafodd ei ffilmio ar wyliau yn Ffrainc yn 2005

Clywodd llys bod menyw gafodd ei charcharu am dwyllo budd-daliadau wedi cael ei gorfodi i werthu ei chartref.

Cafodd Annunziatina Attanasio, 51 oed o Gaerdydd, ei dedfrydu i 10 wythnos o garchar wedi iddi gael ei ffilmio ar lithren ddŵr tra'n hawlio budd-dal anabledd.

Cafodd orchymyn i ad-dalu £16,403, ac fe glywodd gwrandawiad atafael enillion troseddol y byddai'n rhaid iddi werthu ei chartref er mwyn cael yr arian.

Roedd Attanasio, o'r Eglwys Newydd, wedi cyfaddef hawlio bron £20,000 mewn budd-daliadau oedd i fod ar gyfer pobl gydag anableddau difrifol.

Roedd wedi hawlio lwfans byw gydag anabledd rhwng Awst 2005 a Chwefror 2010, clywodd Llys y Goron Caerdydd.

Cyn-bartner

Cafodd ei dal pan gafodd ymchwilwyr twyll fideo ohoni ar wyliau yn 2005 gan ei chynbartner.

Cafodd ei ffilmio yn cerdded yn gwbl normal, ac yn defnyddio llithren ddŵr yn ystod gwyliau yn Ffrainc.

Clywodd y llys hefyd bod Attanasio wedi honni ei bod yn "rhy wan i gerdded unrhyw bellter sylweddol" heb ffyn baglau.

Roedd y fideo yn ei dangos hefyd yn dringo allan o'r pwll nofio.