£9.5m ar gyfer uned newydd yn Ysbyty Treforys

ALAC Treforys Image copyright Other
Image caption Argraff artist o'r Ganolfan Aelodau a Theclynnau Artiffisial newydd yn Ysbyty Treforys

Mae Ysbyty Treforys wedi cyhoeddi eu bod wedi cael £9.5 miliwn ar gyfer Uned Adferiad Arbenigol Gyfunol.

Bydd yr uned yn cynnwys Canolfan Aelodau a Theclynnau Artiffisial ac ynghyd â chynllun £5.8m i ymestyn yr adran argyfwng mae'n rhan o gynllun ailddatblygu gwerth £80m.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi cymeradwyo'r arian diweddaraf ar gyfer adeilad modern i gleifion y de a'r de-orllewin.

'Carreg filltir'

Dywedodd cyfarwyddwr cynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Paul Stauber: "Mae hon yn garreg filltir bwysig arall wrth geisio gwireddu cynlluniau'r bwrdd iechyd ar gyfer Ysbyty Treforys.

"Eisoes mae'r gwaith paratoadol wedi dechrau ac fe fydd 200 tunnell o ddur yn cael eu cludo i'r safle cyn diwedd y mis.

"Rydym yn edrych ymlaen at orffen yr adeilad erbyn misoedd cyntaf 2013."

Un o dair

Bydd yr uned adferiad yn cynnig ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys unedau peirianneg ac uned electroneg feddygol.

Bydd y Ganolfan Aelodau a Theclynnau Artiffisial yn un o ddim ond tair yng Nghymru - gyda'r ddwy arall yn Wrecsam a Chaerdydd - ac yn gofalu am tua 1,200 o gleifion.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.