Trosglwyddo dau i lywodraeth Libya
- Cyhoeddwyd

Mae dyn camera o Gaerfyrddin a newyddiadurwr arall o Brydain gafodd eu harestio'n Libya bellach wedi eu trosglwyddo i lywodraeth y wlad.
Roedd Gareth Montgomery-Johnson a Nicholas Davies-Jones o Berkshire wedi eu cyhuddo o ysbio.
Yn ôl un o swyddogion y llywodraeth, fe fyddan nhw'n cael eu rhyddhau os ydyn nhw'n ddieuog.
Mae Mr Montgomery-Johnson yn gweithio i rwydwaith teledu Iran, Press TV, ac mae honiadau ei fod wedi wynebu "artaith feddyliol".
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd chwaer Mr Montomery-Johnson, 36 oed, mai prin yr oedd yn adnabod ei lais ar y ffôn.
Dywedodd Mel Gribble mai dydd Sul oedd y tro cyntaf iddi siarad ag ef ers iddo gael ei ddal dair wythnos yn ôl.
'Ddim yn swnio'
"Roedd yn fater o frys i gael cymaint o wybodaeth â phosib ar y ffôn," meddai'r chwaer.
"Ac roedd 'na sŵn yn y cefndir ac 'Ie' neu 'Na' oedd yr ateb yn bennaf.
"Doedd e ddim yn swnio fel Gareth ac roedd rhaid iddo ddweud pwy oedd e ar y cychwyn.
"Roedd ei lais yn llawn emosiwn."
Dywedodd wrth ei chwaer nad oedd yn cael ei gam-drin yn gorfforol ond pan ofynnodd hi a oedd yn wynebu artaith feddyliol, ei ateb oedd: "I radde helaeth ..."
"Wedi i mi egluro beth oedd yn cael ei wneud yma a bod y lefel ucha' yn delio â'r mater ofynnais a oedd rhywbeth arall y gallwn i ei wneud.
"Ei ateb oedd 'dal i ymdrechu'."
Mae arweinydd y milisia, Faraj al-Swehli, wedi dweud bod y ddau wedi dod i mewn i Libya yn anghyfreithlon a'u bod yn cario "tystiolaeth ddamniol".
Eisoes mae wedi dangos "tystiolaeth" i newyddiadurwyr yn y wlad fod y ddau'n tanio drylliau.
Straeon perthnasol
- 12 Mawrth 2012
- 5 Mawrth 2012
- 24 Chwefror 2012