Chwe bws ysgol a thacsi'n anniogel
- Cyhoeddwyd
Mae chwe bws ysgol a thacsi sy'n cludo plant i'r ysgol wedi methu archwiliad diogelwch wrth i'r heddlu gynnal ymgyrch.
Cyflwynwyd hysbysiadau gwahardd y tu allan i Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy ac Ysgol Emrys ap Iwan yn Abergele ddydd Llun.
Yr heddlu a'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr oedd yn archwilio.
Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Heddlu'r Gogledd y byddai archwiliadau ym mhob un o siroedd y rhanbarth.
Anghyfreithlon
Cafodd hysbysiadau gwahardd eu cyflwyno oherwydd stad tri bws a thacsi yn Llanelwy.
Cyflwynwyd tri oherwydd teiars anghyfreithlon a chyflwynwyd un am fod panel allanol bws yn llac.
Cafodd tri hysbysiad eu cyflwyno ohewrydd teiars anghyfreithlon tri bws yn Abergele.
Bydd rhaid i'r cwmnïoedd sicrhau bod y bysiau a'r tacsi yn ddiogel cyn iddyn nhw gael eu gyrru.
Dywedodd Mr Wareing: "Rydym am sicrhau bod plant yn cael eu cludo'n ddiogel i'r ysgol ac o'r ysgol.
"Mae gyrwyr, gweithredwyr ac ysgolion wedi cydweithio â ni ond gall unrhyw un nad ydyn nhw'n cydymffurfio â'r gwaharddiadau gael ei erlyn."
Straeon perthnasol
- 22 Mawrth 2011
- 21 Medi 2010
- 3 Tachwedd 2009
- 1 Hydref 2008
- 28 Medi 2010