Apêl am ddyn o Ben-y-bont ar Ogwr

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am ddyn o Ben-y-bont ar Ogwr sydd ar goll.

Cafodd Philip Michael Hobbs ei weld ddiwethaf yn ei gartref yn Ffordd Y Bont-faen ddydd Mercher Chwefror 29.

Mae'n 37 oed, ac mae'n cael ei ddisgrifio gan yr heddlu fel person gwyn, sy'n 6 troedfedd o daldra gyda gwallt brown byr.

Mae Mr Hobbs yn hanu o Gaerdydd a symudodd i Ben-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.