Gweinidog: 'Angen brand ar Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Edwina HartFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Edwina Hart: "Mae angen brand arnaf"

Mae'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi cyfadde' nad yw Llywodraeth Cymru wedi creu'r "brand" cywir i Gymru.

Dywedodd Mrs Hart bod brandio yn rhan allweddol o ddenu buddsoddiad o dramor a thwristiaid.

Mae tîm o arbenigwyr yn gweithio ar neges y llywodraeth i ddarpar fuddsoddwyr ac ymwelwyr.

Dywedodd y Ceidwadwyr nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwerthu Cymru yn iawn o amgylch y byd.

Ond mae Mrs Hart wedi amddiffyn record y llywodraeth ar ddatblygu economaidd yn dilyn ffigyrau siomedig yn ddiweddar.

'Cynnwys popeth'

Yn ôl asiantaeth ystadegau Comisiwn Ewrop, Eurostat, ddydd Mawrth, roedd perfformiad economaidd Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn llawer is na'r cyfartaledd yn Ewrop yn 2009.

Dywedodd Mrs Hart wrth Aelodau Cynulliad: "Yr un feirniadaeth y byddwn yn derbyn yw nad ydw i wedi cael 'brand Cymru' yn iawn.

"Mae angen brand arnaf. Brand adnabyddadwy sy'n cynnwys popeth o'r economi, mewnfuddsoddiad, twristiaeth...popeth.

"Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar ddelweddau brandio ac yn penodi staff priodol fel y gallwn gael pobl sy'n gweithio yn y farchnad go iawn, sy'n deall beth yw brand gwlad.

"Mae pobl yn pryderu am sut yr ydym yn cael ein gweld a pha ddelwedd yr ydym yn ei gyfleu....mae hynny'n awgrymu pa ddelwedd y byddwn yn ei ddefnyddio mewn hysbyseb twristiaeth ynghyd â'r un y byddwn yn ei osod mewn poster busnes - rhaid cysylltu'r cyfan.

"Dydw i ddim yn credu ein bod wedi gwneud hynny'n dda iawn mewn blynyddoedd diweddar."

'Rhethreg'

Fis diwethaf, dywedodd Aelodau Seneddol ar y Pwyllgor Materion Cymreig bod cyfleoedd i ddenu buddsoddiad o dramor wedi eu colli ers diddymu Awdurdod Datblygu Cymru yn 2006.

Mae llwyddiant Cymru wrth ddenu busnesau o dramor wedi dirywio ers y 1980au hwyr pan oedd yn gyfrifol am 15% o fuddsoddiad i'r DU. Erbyn 2009-10 roedd hynny i lawr i 6%.

Dywedodd adroddiad blaenorol gan Ysgol Fusnes Caerdydd bod Cymru y tu ôl i bob rhan arall o'r DU.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd mentergarwch y Ceidwadwyr, Nick Ramsay: "Er gwaetha'r holl rethreg amddiffynnol, mae'r gweinidog wedi dweud wrthym y gwirionedd yr oeddem eisoes yn gwybod.

"Yn syml, nid yw Cymru'n cael ei gwerthu'n iawn, ac mae cronfeydd arian o Ewrop wedi cael eu camreoli yn y gorffennol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol