Ymgyrch: 'Gwisgwch eich gwregys'

  • Cyhoeddwyd
Gwregys diogelwchFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd dros 2,000 o yrwyr eu herlyn dros gyfnod o fis yng Nghymru

Mae ymgyrch wedi ei lansio yng Nghymru yn annog gyrwyr i wisgo gwregysau diogelwch.

Bydd yr ymgyrch yn para am bythefnos cyn ymgyrchoedd llai fydd yn targedu troseddau eraill gyrwyr.

Cafodd dros 2,000 o yrwyr eu herlyn yng Nghymru y llynedd am beidio â gwisgo gwregysau a hynny yn ystod ymgyrch barodd am fis.

Yr amcangyfri yw bod mwy na 1,000 o fywydau yn cael eu hachub bob blwyddyn yn y DU oherwydd gwisgo gwregys diogelwch.

Gall gyrwyr sydd ddim yn gwisgo un gael dirwy o £60 yn y fan a'r lle neu £500 os yw'r achos yn mynd drwy'r llysoedd.

Ffactorau

Yn ystod yr ymgyrch bresennol, bydd heddluoedd yn targedu troseddwyr ac yn erlyn lle mae hynny'n briodol.

Bob blwyddyn yng Nghymru mae'r heddlu a phartneriaid eraill yn cynnal nifer o ymgyrchoedd oherwydd pump o ffactorau sy'n cyfrannu at wrthdrawiadau marwol ar y ffyrdd :-

  • Gyrru heb wregys diogelwch;
  • Gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau;
  • Gyrru tra'n defnyddio ffôn symudol;
  • Gyrru'n rhy gyflym;
  • Gyrru'n esgeulus neu'n ddiofal.

Bydd yr ymgyrchoedd nesa'n targedu'r troseddau uchod.

'Anwybyddu peryglon'

Dywedodd y Prif Arolygydd John Pavett o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu Gwent: "Mae gwisgo gwregys diogelwch yn y sedd gefn wedi bod yn ofyniad cyfreithiol ers blynyddoedd lawer ond rydym yn dal i weld pobl yn llawer rhy aml sydd ddim yn gwisgo gwregys yn y sedd gefn neu sedd flaen.

"Mewn nifer fawr o wrthdrawiadau marwol ar y ffyrdd mae methu gwisgo gwregys yn ffactor."

Dywedodd Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru: "Y brif neges yw y gall gwisgo gwregys diogelwch wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw ac mae hynny'n wir am deithwyr yn ogystal â gyrwyr.

"Mae'r mwyafrif yn ymwybodol o'r risg o beidio â gwisgo gwregys ond mae rhai o hyd sy'n dewis anwybyddu'r peryglon."