Tanau bwriadol: Targedu dwy ardal
- Cyhoeddwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dechrau ymgyrch i geisio lleihau nifer tanau gwair Gwynedd, gan dargedu'r ddwy ardal sy'n diodde' waethaf - Blaenau Ffestiniog a Bangor.
Yn ystod y Pasg y llynedd cafodd mwy o danau gwair eu cynnau'n fwriadol yn y ddwy ardal nac unman arall.
Bydd aelodau'r Tîm Lleihau Tanau Bwriadol yn gweithio gyda swyddogion cyswllt ysgolion Heddlu'r Gogledd wrth fynd i ysgolion cynradd, clybiau ieuenctid ac archfarchnadoedd a phwysleisio y bydd Maesgeirchen ym Mangor a Blaenau Ffestiniog o dan wyliadwriaeth dros wyliau'r Pasg.
Bydd ymgyrch bosteri hefyd mewn ysgolion gyda chyfle i bobl ifanc ennill teclyn iPod shuffle.
'Targedu'
Dywedodd y Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol, Kevin Jones: "Wrth edrych ar ystadegau cyfnod y Pasg y llynedd, y ddwy ardal hon oedd â'r nifer uchaf o achosion tanau gwair bwriadol a dyna pam yr ydym yn eu targedu eleni.
"Trwy godi proffil gwaith y tîm yn yr ardaloedd dan sylw a dweud wrth y trigolion y byddwn yn cadw golwg ar y ddau le dros y Pasg, gobeithio y bydd llai o danau eleni.
"Trwy berswadio'r gymuned i fod yn rhan o'r ymgyrch, rydym yn gobeithio y bydd pawb yn sylweddoli oblygiadau tanau bwriadol oherwydd bod diffoddwyr sy'n delio gyda thanau o'r fath yn methu bod ar gael i achub bywydau mewn digwyddiadau eraill o bosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2011
- Cyhoeddwyd15 Mai 2011
- Cyhoeddwyd5 Mai 2011
- Cyhoeddwyd4 Mai 2011