Ffrae dros baragleidio ar fynyddoedd Y Preseli
- Cyhoeddwyd

Mae paragleidwyr sydd wedi'u hatal rhag defnyddio Mynyddoedd Y Preseli yn honni y bydd y gwaharddiad yn niweidiol i dwristiaeth yn Sir Benfro.
Mae tirfeddianwyr wedi dweud wrthyn nhw na chawn nhw fynediad i'r tir comin.
Mae ffermwyr yn honni bod y gamp yn cael effaith ar eu hanifeiliaid ac mae rhai sy'n marchogaeth wedi codi pryderon ynglŷn â diogelwch.
Ond mae perchennog un ysgol baragleidio yn gwadu'r honiadau ac yn gobeithio y bydd 'na newid meddwl.
Mae'n poeni y bydd rhaid i bobl adael yr ardal i fwynhau'r gamp.
Tirfeddianwyr
Roedd y ddwy ochr wedi dod at ei gilydd i drafod y sefyllfa dros y penwythnos.
Ond doedd 'na ddim cyfaddawd.
Mae Mynyddoedd y Preseli yn dir comin ac mae mynediad iddyn nhw ar gyfer hamdden yn rhan o'r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy.
Mae'r ddeddf yn dweud nad oes gan baragleidwyr hawl i ddefnyddio'r tir comin heb ganiatâd y tirfeddianwyr.
Dywedodd Nick Bamber o Baragleidio Sir Benfro fod y gamp yn cynyddu mewn poblogrwydd ac yn werth degau o filoedd o bunnau i ddiwydiant twristiaeth y sir.
"Mae'r penderfyniad yn un annheg iawn," meddai.
"Mae'r gamp yn un sydd yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn hysbyseb wych ar gyfer Sir Benfro.
"Rwy'n credu'n gryf fod y gamp yn gallu cael ei gynnal ochr yn ochr â marchogaeth ceffylau a phori."
Ardaloedd eraill
Ychwanegodd fod paragleidwyr wedi defnyddio'r mynyddoedd am yr 20 mlynedd ddiwethaf a'i fod wedi gobeithio y byddai'r ddwy ochr yn gallu cyfaddawdu.
Dywedodd Mr Bamber na allai paragleidwyr ddefnyddio'r un safle arall yn y sir oherwydd cyflwr y gwynt a'i fod yn gorfod cludo cleientiaid i rannau eraill o Gymru.
Dywedodd Carolyn Morgan, sy'n gyfrifol am stablau tua milltir a hanner o'r mynyddoedd, bod y ceffylau yn cael braw o weld neu glywed y paragleidwyr.
"Mae hyn yn berygl i'r rhai sy'n marchogaeth.
"Mae 'na filltiroedd o lwybrau ceffyl yn y sir sy'n denu ymwelwyr.
"Fi fydd yn gyfrifol petai 'na ddamwain yn ystod un o'r teithiau."
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro, sy'n rheoli'r mynediad i Fynyddoedd Y Preseli, fod hawl y cyhoedd i ddefnyddio'r tir yno wedi'i gyfyngu i gerdded heblaw am ddefnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
"Mae'r ddeddfwriaeth yn gwahardd paragleidwyr rhag cyrraedd y mynyddoedd," meddai llefarydd.
"Mae paragleidio wedi ei gynnal ar y Mynyddoedd heb ganiatâd y tirfeddiannwr hyd yn hyn.
"Mae'r awdurdod yn gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys o ran materion lle mae troseddau wedi'u cyflawni.
"Mae'r awdurdod yn gofyn i'r paragleidwyr barchu dymuniad y tirfeddiannwr i warchod y safle am ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig.
"Caniateir paragleidio mewn ardaloedd eraill y tu mewn i'r parc cenedlaethol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2011
- Cyhoeddwyd3 Mai 2011