Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
DamwainFfynhonnell y llun, bbc

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad tua 11am fore Mawrth.

Aed â menyw 81 oed i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful gydag anafiadau difrifol i'w phen a'i choes wedi'r ddamwain yn Abercynon.

Roedd beic modur gwyn wedi ei tharo ar Heol Abercynon a chafodd gyrrwr y beic modur fân anafiadau.

Mae'r gyrrwr a'r fenyw yn lleol.

Dywedodd yr heddlu eu bod am siarad ag unrhyw un welodd y ddamwain neu unrhyw un arhosodd i gynnig cymorth ar y pryd.

Gall pobl ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol