£321,000 i gynllun addysgu Holocost

  • Cyhoeddwyd
Gwersyll Auschwitz-BirkenauFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cynllun yn cynnwys ymweliad am ddiwrnod i wersyll Auschwitz-Birkenau yng Ngwlad Pwyl

Bydd cynllun sy'n ceisio addysgu pobl ifanc am yr Holocost yn derbyn £321,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai cynllun Gwersi o Auschwitz yn cynnig cyfle i bobl ddeall mwy am y digwyddiadau yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.

Daw'r arian o Raglen Addysg Ryngwladol Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.

Y nod yw addysgu pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed a bydd ymweliad am ddiwrnod i Auschwitz-Birkenau yng Ngwlad Pwyl.

'Goddefgarwch'

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Mr Andrews: "Mewn cymdeithas fyd-eang mae'n hanfodol bod pobl ifanc yng Nghymru yn deall yn union beth ddigwyddodd yn Auschwitz, ac yn dysgu o wersi'r gorffennol.

"Heddiw mae goddefgarwch a chynhwysiant mor bwysig ag erioed. Felly mae'n bwysig bod myfyrwyr yn ystyried hefyd sut mae gwersi Auschwitz yn berthnasol i'n cymdeithas ni yn y byd modern.

"Mae gwaith yr ymddiriedolaeth ers tair blynedd wedi creu argraff arna i a dw i'n falch o gyhoeddi y bydd mwy o help oddi wrth Lywodraeth Cymru i'r prosiect yn ystod y tair blynedd nesa."

'Cydnabod gwerth'

Dywedodd Karen Pollock MBE, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost: "Rydyn ni'n hynod falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth ein prosiect.

"Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, mae'n bwysicach nag erioed fod pobl ifanc yn dysgu am yr Holocost ac yn deall beth ddigwyddodd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol