50 o swyddi newydd yn Sir y Fflint a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru yn creu 50 o swyddi newydd mewn labordai "arloesol".
Fe fydd 40 o swyddi yng Nghasnewydd a 19 yn Bretton ger Brychdyn, Sir y Fflint.
Mae disgwyl i'r labordy yng Nghasnewydd agor erbyn diwedd y flwyddyn ond mae'r un llai yn y gogledd eisoes ar waith.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod wedi buddsoddi £8.6 miliwn wrth greu'r cyfleusterau newydd.
Yn ôl y cwmni, mae gwasanaethau labordai yn hanfodol wrth gynnal 300,000 o ddadansoddiadau o samplau dŵr yfed bob blwyddyn sy'n sicrhau'r ansawdd uchaf bosibl ar gyfer eu 3 miliwn o gwsmeriaid.
'Cyfleoedd'
O'r blaen contract allanol oedd yn gyfrifol am hyn.
"Rydym yn creu canolfannau rhagoriaeth a swyddi newydd fydd yn cynnig cyfleoedd i wyddonwyr medrus a staff cymorth," meddai Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dŵr Cymru, Peter Perry.
"Y cyfleusterau newydd hyn fydd ein prif ganolfannau profi yng Nghymru.
"Fe fyddan nhw'n hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r ansawdd dŵr gorau posibl yn y tap ac yn diogelu iechyd y cyhoedd - sef ein blaenoriaeth uchaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2010