Cymuned o leianod yn dathlu 800 mlynedd

Lleian Image copyright Other
Image caption Mae'r gymuned o leianod wedi bod ym Mhenarlâg ers 1928

Mae cymuned o leianod ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, yn dathlu 800 mlynedd ers dechrau ei chwaeroliaeth.

Mae lleiandy Tŷ Mam Duw, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel cymuned y Poor Clares, wedi bod ym Mhenarlâg ers 1928.

Eleni mae'n dathlu'r ffaith bod y Santes Clare wedi gadael ei theulu ac ymuno â Sant Ffransis o Assisi ar Fawrth 18 1212 er mwyn dilyn yr efengyl.

Yn sgil hyn daeth Clare yn abades yn 1216 ac fe ymledodd ei hurdd hyd ei marwolaeth yn 1253, pan roedd tua 80 o leiandai yn Ewrop yn dwyn ei henw.

Fel rhan o'r dathliadau mae lleianod Penarlâg yn cynnal arddangosfa i ddathlu bywyd y Santes Clare.

'Byw bywyd'

Dywedodd y Chwaer Maria: "Mae'r arddangosfa yn adrodd stori'r Santes Clare i fyny at y presennol a sut yr ydym yn byw ein bywydau.

"Rydym yn byw bywyd o weddi ac yn credu bod hyn yn helpu llawer o bobl."

Mae'r arddangosfa'n cynnwys lluniau o'r lleianod pan symudon nhw i Benarlâg gyntaf.

Dywedodd y Chwaer Maria eu bod yn byw yn Y Fflint cyn hyn, mewn tŷ ar Church Street.

Bydd yr arddangosfa hefyd yn edrych ar fywydau dilynwyr Clare ar draws y byd.

Yn ogystal bydd esiamplau o grefftwaith y lleianod i'w gweld.

"Rydym yn gwneud jam, gwaith coed, gwaith crosio, gwnïo a chrochenwaith".

Mae'r arddangosfa yn agor ddydd Gwener Mawrth 16 rhwng 9.30am a 3.30pm ac o 6-7.30pm yn y lleiandy.

Bydd hefyd ar agor dros y penwythnos rhwng 9am a 5.30pm.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.