Dimitri Yachvili yn ôl yn nhîm Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Dimitri YachviliFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r mewnwr Dimitri Yachvili yn holliach ac wedi ei gynnwys yn nhîm Ffrainc fydd yn herio Cymru ddydd Sadwrn.

Mae Yachvili yn un o chwe newid i'r tîm gollodd yn erbyn Lloegr ym Mharis ddydd Sul.

Ond mae'r capten Thierry Dusautoir, Imanol Harinordoquy a Julien Bonnaire i gyd wedi gwella o anafiadau i chwarae yn y rheng ôl.

Fe fydd Wesley Fofana yn symud o'r canol i'r asgell i gymryd lle Vincent Clerc, gyda Florian Fritz yn cael ei ddewis yng nghanol cae.

Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni mae Fofana wedi sgorio cais ymhob gêm.

Mae'r newidiadau eraill ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd yn gweld Alexis Palisson yn cymryd lle Julien Malzieu ar yr asgell arall.

Gwaharddiad

Ymysg y blaenwyr William Servat sy'n cael ei ddewis o flaen Dimitri Szarzewski fel bachwr, gyda David Attoub i mewn fel prop yn lle Nicolas Mas.

Mae Attoub wedi dychwelyd ar ôl gwaharddiad o 70 wythnos am geisio niweidio llygad y Gwyddel Stephen Ferris mewn gêm yng Nghwpan Heineken rhwng Stade Francais ac Ulster.

Daw Yachvili yn ôl wedi iddo fethu'r gemau yn erbyn Yr Alban ac Iwerddon gydag anaf i'w gefn.

Morgan Parra gymrodd ei le, ond fe gafodd yntau ei adael allan o'r tîm i wynebu Lloegr gyda Julien Dupuy yn cael ei ddewis.

Dau arall sy'n colli eu lle yw'r canolwr Maxime Mermoz a'r clo Lionel Nallet.

Mae Ffrainc hefyd wedi colli'r cefnwr Maxime Medard - ni fydd yntau'n chwarae am naw mis wedi anaf a gafodd yn erbyn Yr Alban.

Dim ond unwaith y mae Ffrainc wedi colli yn Stadiwm y Mileniwm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a hynny yn 2008 pan gipiodd Cymru'r Gamp Lawn.

Tîm Ffrainc v. Cymru: Stadiwm y Mileniwm - Dydd Sadwrn, Mawrth 17, 2:30pm

C Poitrenaud (Toulouse); W Fofana (Clermont Auvergne), A Rougerie (Clermont Auvergne), F Fritz (Toulouse), A Palisson (Toulon); L Beauxis (Stade Francais), D Yachvili (Biarritz); J-B Poux (Toulouse), W Servat (Toulouse), D Attoub (Stade Francais), P Pape (Stade Francais), Y Maestri (Toulouse), T Dusautoir (Toulouse, capten), J Bonnaire (Clermont Auvergne), I Harinordoquy (Biarritz).

Eilyddion: D Szarzewski (Stade Francais), V Debaty (Clermont Auvergne), J Pierre (Clermont Auvergne), L Picamoles (Toulouse), M Parra (Clermont), F Trinh-Duc (Montpellier), J-M Buttin (Clermont Auvergne).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol