Sam Warburton yn dychwelyd fel capten i Gymru
- Cyhoeddwyd

Daeth hwb i obeithion Cymru o gipio'r Gamp Lawn gyda'r newyddion bod y capten Sam Warburton wedi gwella o anaf mewn pryd i arwain y tîm yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn.
Ond mae'n ergyd i Justin Tipuric.
Er i flaenasgellwr y Gweilch ennill clod am ei berfformiad yn erbyn Yr Eidal, does dim lle iddo yn y 22 a enwyd gan Warren Gatland.
Ryan Jones sy'n cadw'i le ar y fainc gan ei fod yn medru chwarae mewn sawl safle.
Yr unig newid arall i'r garfan yw bod y mewnwr Lloyd Williams yn dychwelyd i'r fainc yn lle Rhys Webb.
'Anlwcus'
"Mae ein capten yn ôl, ac er bod Justin yn anlwcus wedi iddo chwarae'n dda yn ei le yr wythnos ddiwethaf, mae presenoldeb Sam yn hwb i bawb," meddai Gatland wrth gyhoeddi'r tîm.
Bydd Matthew Rees yn cadw'i le fel bachwr, ac fe fydd yn ennill ei 50fed cap yn erbyn Les Bleus.
Bydd yr hyfforddwr yn medru dewis yr un olwyr am y pumed gêm yn olynol, ac mae dau o'r blaenwyr - Toby Faletau ac Adam Jones - hefyd wedi dechrau pob gêm yn y Bencampwriaeth.
Auckland
Fe fydd atgofion gan Warburton o'r tro diwethaf i'r ddau dîm gwrdd, sef rownd gynderfynol Cwpan Y Byd yn Auckland ym mis Hydref y llynedd pan welodd y capten gerdyn coch am dacl anghyfreithlon wrth i Gymru golli 9-8.
Ond roedd y dacl honno ar Vincent Clerc a fydd yn absennol o dîm Ffrainc ddydd Sadwrn.
Ychwanegodd Gatland: "Rydym yn ymwybodol o'r hyn y mae'r gêm yn ei olygu i'r cefnogwyr - daeth 60,000 ohonyn nhw i Stadiwm y Mileniwm i weld y rownd gynderfynol yn erbyn Ffrainc ar y sgrîn fawr, ac mae hynny'n dweud cyfrolau am eu hymroddiad.
"Ond y penwythnos yma, fe fydd 74,500 ddod i'r stadiwm gyda chyfle i'n gweld yn creu hanes.
"Maen nhw'n medru gwneud cyfraniad gwirioneddol bositif i'w awyrgylch.
"Y cyfan y medrwn ni wneud yw paratoi fel arfer - rydym yn ymwybodol o fawredd yr achlysur, ond does wnelo hynny ddim gyda'r ffordd y byddwn yn paratoi."
Tîm Cymru v. Ffrainc: Stadiwm y Mileniwm, Dydd Sadwrn, Mawrth 17, 2:30pm.
Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Michael Phillips; Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Dan Lydiate, Sam Warburton (Capten), Toby Faletau
Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams
Cymru v Yr Eidal, Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd:Dydd Sadwrn,Mawrth 10,2.30pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2012