Disgyblion yn gadael wedi tân yn Aberdaugleddau
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i ddisgyblion a staff adael Ysgol Gyfun Aberdaugleddau oherwydd tân fore Iau.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw am 11:30am.
Dechreuodd y tân yn y bloc toiledau yn adeilad Heol Steynton.
Roedd rhaid i ddiffoddwyr ddefnyddio offer anadlu arbennig er mwyn taclo'r fflamau ond mae'r tân bellach o dan reolaeth.