Apêl yr heddlu am ddyn ar goll

  • Cyhoeddwyd
Richard LewisFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Does neb wedi gweld Richard Lewis ers bore Llun

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am ddyn sydd wedi bod ar goll ers dydd Llun, Mawrth 12.

Mae Richard Lewis, 62 oed, wedi bod ar goll o'i gartref yn Nhŷ Nant, Penyrheol, Caerffili.

Dywedodd yr heddlu ei fod yn 5'9" o daldra ac o gorff main. Mae ganddo lygaid llwydlas ac mae'n foel gydag ychydig o wallt wedi britho.

Y tro diwethaf iddo gael ei weld roedd yn gwisgo jîns, siaced werdd ac esgidiau brown.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn gwybod bod Mr Lewis yn ymweld ag ardaloedd Mynydd Caerffili a Senghennydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.