Tŷ Tredegar: Rheolwyr newydd

  • Cyhoeddwyd
Tŷ TredegarFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Tŷ Tredegar ei godi yn y 1670au

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw rheolwyr newydd Tŷ Tredegar ger Casnewydd.

Daw hyn ar ôl cytundeb 50 mlynedd rhwng perchnogion y safle, Cyngor Casnewydd, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yr elusen fydd nawr yn gyfrifol am reoli'r tŷ, y gerddi a'r tir parc.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth y bydd y drefn newydd yn sicrhau dyfodol yr adeilad hanesyddol.

Dywedodd llefarydd: "Mae gan yr elusen broffil cenedlaethol a phedwar miliwn o aelodau a byddwn yn gwneud ein gorau i hyrwyddo'r safle.

"Y nod yw ceisio cynyddu nifer yr ymwelwyr o 25,000 bob blwyddyn i 100,000."

Yn ôl y trefniadau newydd bydd mynediad am ddim yn parhau i diroedd y Tŷ a hefyd lle chwarae'r plant.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol