Rheolwraig cartre'n cyfaddef dwyn

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwraig cartref gofal yng Ngwynedd wedi cyfaddef iddi ddwyn arian o gyfrif banc un o'r preswylwyr oedrannus.

Roedd Gillian Allday, 49 oed o'r Bermo, wedi gwadu 13 cyhuddiad o dwyll ac roedd achos llys pedwar diwrnod wedi ei bennu ar gyfer yr haf.

Ond cyfaddefodd ei bod wedi cyflawni'r troseddau gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug oedd yn eistedd yng Nghaer.

Derbyniodd hi ei bod wedi talu sieciau i'w hun oedd yn werth £400, £500 a £700 a chodi arian o'r banc yn ychwanegol i'r arian yr oedd hawl ganddi ei godi i dalu am ofynion misol y breswylwraig.

£6,100

Roedd Allday yn rheolwraig cartref gofal Hafod Mawddach yn Y Bermo pan gyflawnodd y troseddau yn 2008.

Ddydd Iau cyfaddefodd ei bod wedi cymryd £6,100 o gyfrif banc Betty Lyn ap Gwilym, 79 oed.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fydd hi'n cael ei dedfrydu ar Ebrill 11.

Dywedodd Jonathan Duffy fod ei gleient wedi bwriadu talu'r arian yn ôl ond heb feddwl sut y byddai'n gwneud hynny.

"Mae hi'n bwriadu talu'r arian yn ôl os yw hynny'n bosib," meddai.