Dathlu gwaith cyhoeddwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Fflur DafyddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd oedd y ffuglen a werthodd orau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf

Ymgasglodd cyhoeddwyr Cymru yn Aberystwyth ar gyfer achlysur arbennig i gyflwyno Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi.

Yn ystod y seremoni, gafodd ei chynnal ddydd Iau anrhydeddwyd gwaith y cyhoeddwyr am werthiant eu llyfrau yn ogystal â safon cynhyrchu a dylunio'r llyfrau.

Y ffuglen Gymraeg a werthodd orau yn y ddwy flynedd ddiwethaf oedd Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd a'r gwerthwr gorau heb fod yn ffuglen yn y Gymraeg oedd Yogi - Mewn Deg Eiliad, gan Bryan Davies.

Cyflwynir gwobrau'r diwydiant bob dwy flynedd ac eleni roedd y seremoni'n cyd-fynd â dathliadau hanner can mlwyddiant Cyngor Llyfrau Cymru.

'Deunydd apelgar'

"Ein hamcan wrth gyflwyno'r gwobrau hyn yw anrhydeddu gwaith clodwiw y cyhoeddwyr yn paratoi ystod o lyfrau ar gyfer y darllenwyr," meddai'r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau.

"Fel corff sydd yn gwasanaethu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru mae'r Cyngor yn ymwybodol iawn o ymdrechion y cyhoeddwyr i gynnal y safonau uchaf wrth gyhoeddi deunydd apelgar ar gyfer plant ac oedolion.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Y gwerthwr gorau heb fod yn ffuglen yn y Gymraeg oedd Yogi - Mewn Deg Eiliad, gan Bryan Davies

"Mae'n braf, felly, cael y cyfle i ddathlu eu llwyddiant ar yr achlysur hwn."

Yn ystod y seremoni, cyflwynwyd 18 o wobrau amrywiol gan gynnwys categorïau gwerthwyr gorau, llyfrau a fenthyciwyd amlaf o lyfrgelloedd yn ogystal â chydnabod y goreuon ym maes dylunio a chynhyrchu.

Eleni, am y tro cyntaf, ychwanegwyd gwobrau ar gyfer dylunio a chynhyrchu ym maes cylchgronau Cymraeg a Saesneg.

Comisiynwyd y gwobrau'n arbennig gan yr artist o Gaerdydd, Carwyn Evans a enillodd y Wobr Gelf Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009.

"Mae'r cyhoeddwyr i gyd i'w llongyfarch yn fawr am eu gwaith," meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau.

"Roedd sylwadau'r panel beirniaid dylunio yn tystio i'r datblygiad a fu yn y maes pwysig hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r ffaith fod deuddeg o gyhoeddwyr wedi dod i'r brig yn yr amrywiol gategorïau yn arwydd o'r bywiogrwydd ym maes cyhoeddi yng Nghymru yn y ddwy iaith."

Nid y Cyngor Llyfrau yn unig fu'n dathlu carreg filltir arbennig yn ei hanes yn ddiweddar.

Wrth annerch y gynulleidfa, nododd yr Athro Thomas bod Gwasg Gwynedd yn dathlu deugain mlynedd o gyhoeddi, Seren (Pen-y-bont ar Ogwr) newydd ddathlu deng mlynedd ar hugain o gyhoeddi a bod Honno, cyhoeddwyr llenyddiaeth menywod Cymru (Aberystwyth) hefyd yn dathlu chwarter canrif yn y maes.

Cyfeiriodd yn arbennig hefyd at gyfraniad nodedig John Lewis, Gwasg Gomer (Llandysul, Ceredigion) a ddathlodd ei ben blwydd yn bedwar ugain yn ddiweddar ac sy'n parhau'n weithgar ym musnes y teulu a sefydlwyd gant ac ugain o flynyddoedd yn ôl.

Enillwyr Gwobrau Llyfrau Cymraeg

GWERTHWR GORAU FFUGLEN

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Y Llyfrgell, Fflur Dafydd

GWERTHWR GORAU BARDDONIAETH

Cyhoeddwr: Gomer

Cerddi Dic yr Hendre, Dic Jones

GWERTHWR GORAU HEB FOD YN FFUGLEN

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Yogi - Mewn Deg Eiliad, Bryan Davies

GWERTHWR GORAU PLANT

Cyhoeddwr: CAA

Patagonia, Sioned V. Hughes

LLYFR A FENTHYCIWYD AMLAF O LYFRGELL

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Naw Mis, Caryl Lewis

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (PLANT)

Cyhoeddwr: Gwynedd

Dwdl-mi-do, Mererid Hopwood a Nan Elis

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (OEDOLION)

Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru

Cerddi Dafydd ap Gwilym, Gol. Amrywiol

LLYFR FFOTOGRAFFIG / CELF

Cyhoeddwr: Gomer

Patagonia - Croesi'r Paith, Matthew Rhys

DYLUNIO A CHYNHYRCHU: CYLCHGRAWN CYMRAEG

Y Selar

Enillwyr Gwobrau Llyfrau Saesneg

GWERTHWR GORAU FFUGLEN

Cyhoeddwr: Gomer

Not Quite White, Simon Thirsk

GWERTHWR GORAU BARDDONIAETH

Cyhoeddwr: Bloodaxe Books

The Water Table, Philip Gross

GWERTHWR GORAU HEB FOD YN FFUGLEN

Cyhoeddwr: Crownhouse Publishing

The Lazy Teacher's Handbook, Jim Smith

GWERTHWR GORAU PLANT

Cyhoeddwr: Thomas Hamilton

Rhamin, Bryce Thomas

LLYFR A FENTHYCIWYD AMLAF O LYFRGELL

Cyhoeddwr: Seren

Black-Eyed Devils, Catrin Collier

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (PLANT)

Cyhoeddwr: Pont (Gomer)

When Granny Tells a Story, Fran Evans

DYLUNIO A CHYNHYRCHU (OEDOLION)

Cyhoeddwr: Graffeg

Seashore Safaris, Judith Oakley

LLYFR FFOTOGRAFFIG / CELF

Cyhoeddwr: Gomer

Legend and Landscape of Wales: Tales of Arthur, John K. Bollard

DYLUNIO A CHYNHYRCHU: CYLCHGRAWN SAESNEG

Cyhoeddwr: 'Berw Cyf.'

Planet

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol