Gwasanaeth coffa i'r ffermwr Llywelyn Thomas
- Cyhoeddwyd

Bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ddydd Gwener i ffermwr o Gymru gafodd ei lofruddio yn Lloegr.
Cafwyd hyd i gorff Llywelyn Thomas, yn wreiddiol o Sain Ffagan ger Caerdydd, wedi i'r heddlu gael eu galw i'w gartref yn Chittering, Sir Gaergrawnt ar Ragfyr 18.
Canlyniad archwiliad post mortem oedd iddo farw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal ddydd Gwener am 3pm yn Abaty Margam.
Cafodd Mr Thomas ei eni ar gyrion Caerdydd ac roedd yn ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.
Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab.
Cafodd ei gar Rover arian gyda'r rhif cofrestru BJ51 CJV ei ddwyn o'i gartref a chafwyd hyd iddo yn ddiweddarach mewn pentref i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caergrawnt, pentref Milton.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'w farwolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011