Cwest: Plentyn wedi'i grogi gan gortyn llenni
- Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi rhybuddio rhieni am beryglon llenni ffenestri wedi i blentyn bach grogi ar gortyn.
Roedd Josh Wakeham yn bron yn ddwy flwydd oed pan gafodd ei grogi gan gortyn llenni rholer wrth iddo edrych allan o ffenest ei ystafell wely yng Nghasnewydd.
Cafodd rheithfarn o farwolaeth drwy ddamwain ei chofnodi gan grwner Gwent, David Bowen, ddydd Iau.
Dywedodd Mr Bowen "nad oedd hi'n rhesymol" i rieni monitro eu plant 24 awr bob dydd.
'Ffonio 999'
Clywodd y cwest mai'r bachgen "bywiog a chwilfrydig" hwn oedd y trydydd plentyn i farw wedi iddynt gael eu crogi gan gortyn llenni ym Mhrydain eleni.
Mewn datganiad gafodd ei ddarllen yn y cwest, dywedodd mam Josh, Tracey Ford: "Roedd yna lenni ar y ffenest pan symudon ni i'r tŷ.
"Roedd Josh yn hoffi codi'i law ar bobl ac ni welais e'n chwarae gyda chortyn y llenni erioed".
Clywodd y cwest fod Mrs Ford wedi mynd â Josh i'r gwely rhwng 6pm a 6.30pm a'i bod hi wedi sylweddoli bod rhywbeth mawr o'i le pan ddychwelodd i sicrhau bod ei mab yn iawn tua 9pm.
"Roeddwn yn gallu gweld ei fod yn sefyll ar ei draed ac yn edrych allan o'r ffenest cyn imi weld fod y cortyn o gwmpas ei wddf.
"Roedd e'n oer pan wnes i gyffwrdd ag ef.
"Fe wnes i ffonio 999 a ddywedon nhw y dylwn i geisio'i adfywio drwy dechneg genau-i -genau.
"Fe wnes i geisio gwneud hyn ond roedd e'n oer."
'Chwilfrydig'
Dywedodd y Ditectif Sarjant Wendy Keeping wrth y cwest mai hwn oedd y trydydd tro eleni i blentyn ifanc farw wedi iddynt grogi ar gortyn llenni rholer.
"Roedd Joshua yn bron â bod yn ddwy flwydd oed ac ni fyddai'n ymwybodol o'r peryg," meddai.
Canfu archwiliad post-mortem fod Joshua wedi marw wedi iddo grogi gan gortyn y llenni.
Dywedodd y crwner, David Bowen: "Roedd Joshua yn blentyn cyffredin oedd yn iach, bywiog a chwilfrydig oedd yn hoffi sefyll wrth ffenest ei ystafell wely a chodi'i law i aelodau'r cyhoedd oedd yn cerdded heibio.
"Fe fyddai'n sefyll wrth y ffenest ddydd a nos.
"Ond cafodd ei faglu yn y cortyn ac roedd e'n llawer rhy ifanc i fedru rhyddhau ei hun.
"Nid yw'n rhesymol i unrhyw riant monitro eu plant 24 awr bob dydd ond rwy'n gobeithio bydd y drasiedi hon yn rhybuddio rhieni eraill.
"Ni ddylai plant gael at beryglon posib."
Dywedodd Michael Corley, llefarydd Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau, eu bod yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am beryglon llenni rholer.
"Mae llenni rholer wedi achosi 22 marwolaeth er 1999," meddai.
"Ond mae 11 o'r marwolaethau hyn wedi digwydd ers dechrau 2010. Mae'r rhif hwn yn llawer rhy uchel.
"Rydym yn galw am ddeddfau fydd yn lleihau'r peryg o gortynnau dolennog drwy osod dyfeisiau diogelwch iddynt neu gael gwared ohonynt yn gyfan gwbl".
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, wedi cyflwyno cynnig yn Nhŷ'r Cyffredin yn galw ar gynhyrchwyr llenni i gyflwyno dyfeisiau diogelwch.
"Mae'r achos hwn yn dorcalonnus," meddai Mr Flynn.
"Rydym yn gofyn y Llywodraeth i ddechrau ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am beryglon y llenni hyn." ni.
Straeon perthnasol
- 9 Rhagfyr 2009