RaboDirect: Dreigiau 18-14 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Cyflymdra Tonderai Chavhanga yn selio'r fuddugoliaethFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cyflymdra Tonderai Chavhanga yn selio'r fuddugoliaeth

Cais Tonderai Chavhangha yn hwyr yn y gêm sicrhaodd y fuddugoliaeth i Ddreigiau Casnewydd Gwent yn erbyn Gleision Caerdydd yng Nghynghrair Pro12.

Fe wnaeth y maswr Dan Parks lwyddo gyda chic gosb gynnar i'r Gleision, cyn i Jevon Groves sgorio cais i'r Dreigiau gyda Lewis Robling yn llwyddo gyda'r trosiad.

Fe wnaeth yr asgellwr Tom James ymateb gyda chais i'r ymwelwyr ac fe wnaeth Parks lwyddo gyda dwy gic gosb arall.

Ychwanegodd Robling dwy gic gosb i'r Dreigiau, cyn i gyflymdra Chavhanga selio'r fuddugoliaeth.

Dyma'r eildro yn unig i'r Dreigiau faeddu'r Gleision mewn 11 gêm.

TIMOEDD

Dreigiau: Martyn Thomas; Will Harries, Andy Tuilagi, Ashley Smith (capt), Aled Brew; Lewis Robling, Wayne Evans; Nathan Williams, Steve Jones, Nathan Buck, Jevon Groves, Rob Sidoli, Lewis Evans, Darren Waters, Tom Brown.

Eilyddion: Sam Parry, Phil Price, Dan Way, Hugo Ellis, Hywel Stoddart, Joe Bedford, Tonderai Chavhanga, Steffan Jones.

Gleision: Chris Czekaj; Harry Robinson, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Tom James; Dan Parks, Richie Rees; Sam Hobbs, Rhys Thomas (capt), Scott Andrews, Macualey Cook, Cory Hill, Michael Paterson, Martyn Williams, Xavier Rush.

Eilyddion: Ryan Tyrell, John Yapp, Ryan Harford, Maama Molitika, Josh Navidi, Lewis Jones, Ceri Sweeney, Ben Blair.

Dyfarnwr: Leighton Hodges (URC)