Rowan Williams i ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd

Bydd Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, yn rhoi'r gorau i'w swydd ym mis Rhagfyr wedi 10 mlynedd wrth y llyw.
Fe fydd yn ymgymryd â swydd newydd fel Meistr Coleg Madlen, Prifysgol Caergrawnt.
Dr Williams, 61 oed, oedd y 104ydd person i ddal y swydd, gan olynu y Dr George Carey.
Cyn hynny bu'n Archesgob Cymru.
'Braint aruthrol'
Dywedodd Dr Williams: "Mae wedi bod yn fraint aruthrol i fod yn Archesgob Caergaint, gan fy mod wedi cael mynediad i fywyd eglwysi ledled y byd mewn ffordd unigryw.
"Y fraint yw eich bod yn cael eich cymryd i galon yr eglwys leol am ychydig ddyddiau, ac yn cael gweld beth sy'n bwysig i bobl mewn plwyfi, ysgolion, carchardai ac ati.
"Ychydig iawn o swyddi sy'n arwain at gynifer o ddrysau agored".
'Galluocaf'
Yn ôl Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan: "Dr Rowan Williams yw'r Archesgob galluocaf a gafodd Caergaint ers canrifoedd, ac fe all mai dim ond ar ôl iddo ymadael y bydd yr Eglwys yn gweld ei wir werth.
"Y mae'n Gristion didwyll, yn ŵr gwylaidd a sanctaidd, bob amser yn agos atoch a byth yn rhodresgar. Oherwydd hynny, fe'i hanwylodd ei hun i lawer o bobl.
"Gweithiodd yn ddiflino dros y degawd diwethaf i gadw'r Cymundeb Anglicanaidd ynghyd, gan gymryd o ddifrif safbwyntiau pobl a oedd yn anghytuno ag ef.
"Ceisiodd annog pawb i gydweithio, yn hytrach na dilyn eu hagenda eu hunain, ac y mae hynny bob amser yn orchwyl anodd.
"Yng Nghymru, wrth gwrs, yr ydym yn eithriadol falch ohono a bu yntau'n llysgennad ardderchog dros ein gwlad.
"Bydd bob amser wrth ei fodd yn dod yn ôl. Bydd yn bwrw un Sul bob blwyddyn yng Nghymru - y Sul nesaf, fel y mae'n digwydd bod - a chaiff bob amser groeso mawr".
Rhyddfrydol
Mae gan Dr Williams ddelwedd fel archesgob rhyddfrydol, sy'n fwy na pharod i fynegi'i farn ar bynciau dadleuol.
Cafodd ei eni yn Abertawe yn 1950 a chafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Dinefwr ynghanol y ddinas.
Roedd hi'n amlwg i ba gyfeiriad yr oedd Rowan Williams yn mynd.
Cafodd gyfnod yng Nghaergrawnt cyn cael ei benodi'n athro yn Rhydychen.
Daeth i Gymru yn 1992 i fod yn Esgob Mynwy.
Ers cael ei benodi'n Archesgob Cymru ac Archesgob Caergaint, mae Rowan Williams wedi bod yn barod i ddweud ei ddweud.
Cafodd sylw mawr yn y wasg am ei sylwadau ar nifer o bynciau dadleuol.
Cefnogodd ordeinio menywod a chododd ei agwedd at hoywon o fewn yr eglwys nyth cacwn.
Beirniadaeth
Ym mis Mehefin roedd yn hynod feirniadol o bolisïau llywodraeth glymblaid San Steffan - polisïau "nad oes neb wedi pleidleisio drostyn nhw" meddai.
Yng nghylchgrawn y New Statesman fe wnaeth honni fod pobl yn hynod ofnus o'r polisïau ym myd addysg ag iechyd yn benodol.
Mae hyn yn cael ei ystyried fel y feirniadaeth fwya llym o bolisïau llywodraeth gan Archesgob ers yr 1980au.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2011