Protest: Dim achos yn erbyn dau

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrchwyr y tu allan i Gastell CaerdyddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Ar un adeg roedd hyd at 100 yn y brotest

Mae'r achos yn erbyn dyn 36 oed a llanc 17 oed a gafodd eu cyhuddo o dresmasu wedi protest Meddiannu tu allan i Gastell Caerdydd ym mis Tachwedd wedi ei ollwng.

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, ni fyddai erlyn Jason Simons a myfyriwr 17 oed "er budd y cyhoedd".

Roedd chwech wedi cael eu harestio am nad oedden nhw wedi dilyn cyfarwyddyd i adael tir, yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.

Roedd 30 o brotestwyr gwrth-gyfalafol wedi sefydlu gwersyll Meddiannu Caerdydd fel rhan o ymgyrch fyd-eang yn erbyn byd bancio.

Ar un adeg roedd hyd at 100 yn y brotest.