Mewnblaniadau: Cyngor newydd
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor newydd i fenywod gafodd fewnblaniadau PIP cyn 2001.
Tan nawr, roedd wedi dweud ei bod yn credu mai dim ond mewnblaniadau PIP gafodd eu gwneud cyn y dyddiad yna oedd yn cynnwys gel silicon nad oedd wedi ei awdurdodi.
Yn seiliedig ar wybodaeth newydd, dywedodd y gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, y dylai pob menyw sy'n bryderus fynd i siarad gyda'u llawfeddyg.
Nid oes disgwyl i'r newid ychwanegu at y 1,000 o achosion sydd eisoes wedi dod i'r amlwg yng Nghymru.
Ni chafodd mewnblaniadau PIP erioed eu defnyddio gan y GIG yng Nghymru.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i dalu i gyfnewid y mewnblaniadau i bobl gafodd y driniaeth yn breifat petai angen clinigol am hynny.
Ond ychwanegodd nad oedd eto dystiolaeth glir bod cleifion gyda mewnblaniadau PIP yn fwy tebyg o ddiodde niwed na'r rhai gyda mewnblaniadau eraill.
'Dim tystiolaeth'
Dywedodd Ms Griffiths: "Does dim tystiolaeth glinigol o hyd sy'n awgrymu y dylid tynnu mewnblaniadau PIP ymhob achos.
"Rydym yn parhau i gwrdd gydag ystod o gyflenwyr preifat i'r hatgoffa am eu dyletswydd o ofal am eu cleifion.
"Fy mhryder pennaf o hyd yw iechyd a lles y menywod a dderbyniodd y mewnblaniadau yma."
Dywedodd y gweinidog bod tystiolaeth i awgrymu bod hyd at 7,000 o fenywod wedi derbyn mewnblaniadau PIP yn y DU cyn Ionawr 2001.
Cafodd y mewnblaniadau PIP eu gwahardd ym mis Mawrth 2010 wedi i awdurdodau yn Ffrainc ganfod bod y cwmni wedi bod yn defnyddio silicon diwydiannol wrth eu gwneud.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012