Colli un o gewri rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd

Daeth cadarnhad bod cyn gapten tîm rygbi Cymru, Mervyn Davies, wedi marw yn 65 oed.
Roedd yr wythwr yn gapten y tîm enillodd y Gamp Lawn yn y 1970au.
Bu'n dioddef o ganser.
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y bydd baneri yn Stadiwm y Mileniwm yn chwifio ar hanner y mast fel arwydd o barch.
Bandiau du
Ddydd Sadwrn bydd chwaraewyr Cymru yn gwisgo bandiau du yn y gêm yn erbyn Ffrainc, ac felly hefyd chwaraewyr y tîm dan 20 oed sy'n chwarae nos Wener.
Bydd yna funud o dawelwch cyn y gêm dydd Sadwrn a bydd fideo yn cael ei dangos yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau gyrfa Mervyn Davies.
Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: "Roeddwn yn gwybod ei fod e'n sâl iawn, ond mae'r newyddion dal yn sioc.
"Roedd e'n gawr o chwaraewr.
"Rydym wedi colli un o gewri'r gem gyda marwolaeth drist Mervyn Davies. Roedd e'n gawr ym mhob ystyr.
"Bydd ei golli yn cael ei deimlo drwy'r byd rygbi - oherwydd ei ddylanwad ar y gêm."
Dywedodd y cyn faswr rhyngwladol Phil Bennett oedd yn chwarae yn yr un tîm â Davies fod y newyddion yn dorcalonnus.
Wrth gael ei gyfweld ar BBC Radio Five Live bu Bennett yn hel atgofion am daith y Llewod i Dde Affrica.
"Dechreuodd chwarae rygbi gorau ei fywyd, roedd e'n anhygoel."
Gwaedlif
Daeth gyrfa Davies i ben pan gafodd waedlif ar ei ymennydd yn ystod gêm rhwng Abertawe a Phont-y-pŵl yn 1976.
"Y fi oedd capten y Llewod yn ystod taith y Llewod i Seland Newydd yn 1977, " meddai Bennett.
"Roedd Mervyn Davies wedi dioddef gwaedlif yn 1976.
"Heb ddim amheuaeth fe fyddai wedi bod yn gapten ar daith '77, a byddai wedi llawn haeddu hynny."
Dywedodd un arall o gewri'r gêm y Gwyddel Willie John McBride mai Mervyn Davies "oedd yr wythwr gorau i mi chwarae ag e."
Cafodd Mervyn Davies ei eni yn Abertawe yn 1946, a dechreuodd ei yrfa rygbi pan ymunodd â thîm Cymry Llundain yn 1968 cyn symud yn ôl i Abertawe yn ddiweddarach.
Enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Yr Alban yn 1969, ac fe aeth ymlaen i chwarae 38 o gemau dros Gymru gan sgorio dau gais.
Gamp Lawn
Daeth yn gapten ar y tîm cenedlaethol mewn cyfnod lle enillodd Cymru'r Gamp Lawn ddwywaith a'r Goron Driphlyg deirgwaith.
Bu ar daith gyda'r Llewod ddwywaith - yn 1971 ac 1974 - gan chwarae mewn wyth gêm brawf.
Mewn 46 o ymddangosiadau rhyngwladol i Gymru a'r Llewod, dim ond naw gwaith y bu'n aelod o'r tîm wnaeth golli.
Cafodd y llysenw "Merv the Swerve" gan gefnogwyr rygbi Cymru, ac mae'n cael ei ystyried gan lawer i fod yr wythwr gorau erioed i chwarae i Gymru.
Daeth ei yrfa i ben pan gafodd waedlif ar ei ymennydd yn ystod gêm rhwng Abertawe a Phont-y-pŵl yn 1976.
Mewn arolwg o gefnogwyr Cymru yn 2002, Davies enillodd y bleidlais fel capten gorau Cymru erioed, a'r wythwr gorau.