Warburton: 'Uchafbwynt fy ngyrfa'
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Sam Warburton, capten Cymru, mai'r gêm am y Gamp Lawn yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm fydd uchafbwynt ei yrfa hyd yn hyn.
Byddai buddugoliaeth yn rhoi'r Gamp Lawn i Gymru am y trydydd tro mewn wyth mlynedd.
Roedd Warburton yn absennol o'r fuddugoliaeth o 24-3 yn erbyn Yr Eidal gydag anaf, ond mae'n holliach i geisio efelychu arwyr ei ieuenctid.
"Rwy'n cofio gwylio yn 2005 a 2008, ac fel dyn ifanc roedd hynny'n symbyliad i mi chwarae rygbi," meddai'r blaenasgellwr 23 oed.
"Wrth weld achlysuron fel yna, mae'n rhywbeth yr ydych am fod yn rhan ohono.
"Bob tro o'n i'n ymarfer fel llanc yn ei arddegau, rydyach am chwarae mewn gemau fel hyn, a dyna pam rwy'n teimlo mor ffodus a breintiedig i fod yma.
"Fedra i ddim disgwyl am y penwythnos - dyma fydd uchafbwynt fy ngyrfa."
Dychweliad Warburton yw'r unig newid yn nhîm Warren Gatland i'r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Yr Eidal.
Er bod Gatland wrth ei fodd i gael Warburton yn ôl, roedd hefyd yn llawn canmoliaeth i gyd-chwaraewr Warburton yn y rheng ôl, Dan Lydiate.
"Mae e'n arwr tawel yn bendant," medd Gatland. "Does dim byd 'flashy' am Dan, ond yn erbyn Yr Eidal fe wnaethon ni 65 tacl fel tîm, ac fe wnaeth Dan 10 ar ei ben ei hun.
"Fe sy'n gwneud y gwaith caib a rhaw ar ran y lleill, ac mae angen person felly arnoch chi - dyna'r glud sy'n dal y cyfan at ei gilydd.
"Mae'n athletwr gwych ac yn gweithi'n galed ar ei gêm - mae'n broffesiynnol i'r carn ac mae'n bwysig iawn i ni."
Tîm Cymru v. Ffrainc: Stadiwm y Mileniwm, Dydd Sadwrn, Mawrth 17, 2:30pm.
Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Michael Phillips; Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Dan Lydiate, Sam Warburton (Capten), Toby Faletau
Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams
Cymru v. Ffrainc: Stadiwm y Mileniwm, Dydd Sadwrn, Mawrth 17, 2:30pm
Straeon perthnasol
- 10 Mawrth 2012
- 25 Chwefror 2012
- 12 Chwefror 2012
- 5 Chwefror 2012