Golygon Casnewydd ar Wembley
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Casnewydd yn gobeithio efelychu, a mynd un cam yn well na'u cymdogion o Gaerdydd drwy gyrraedd Wembley yn Nhlws yr FA.
Mae Justin Edinburgh yn credu bod ei dîm yn gallu delio gyda'r disgwyliadau o fod 90 munud i ffwrdd o'r rownd derfynol.
Mae Casnewydd yn paratoi ar gyfer ail gymal y rownd gynderfyno gyda mantais o 3-1 dros Wealdstone wedi'r cymal cyntaf.
"Rydym yn gwybod beth yw'r wobr ar y diwedd. Rydym 90 munud o Wembley," medd Edinburgh.
"Mae yma griw da o fechgyn yma nawr, ond rydym yn gwybod os fyddwn ni'n ymlacio, fe allwn ni golli'r cyfan."
Mae'r Alltudion hanner ffordd i Wembley yn dilyn goliau gan Elliott Buchanan, Nat Jarvis a Darryl Knights yn y cymal cyntaf ar Barc Sbytty.
Daeth rhyfaint o obaith i Wealdstone oherwydd cynnig Richard Jolly.
'Tasg arall'
Ond mae Edinburgh, a enillodd Gwpan yr Fa yn Wembley gyda Tottenham Hotspur yn 1991, yn mynnu bod ei chwaraewyr yn cadw'u traed ar y ddaear cyn teithio i Wealdstone.
"Rydym yn gwybod beth i ddisgwyl. Fe ddaethon nhw yma a pherfformio'n dda fel y gwanethon nhw yn y rowndiau blaenorol.
"Ond i mi fe fyddai hyn yn orchest anhygoel - y gorau yn fy ngyrfa fel rheolwr.
"Mae tasg arall pwysig i ni wrth gwrs - mae 10 gêm yn weddill er mwyn sicrhau ein bod yn aros yn Uwchgynghrair Blue Square Bet.
"Rwy'n hyderus bod gennym y chwaraewyr iawn yma nawr i wneud hynny - mae hynny wedi dangos yn ein performiadau diweddar."
Os fydd Casnewydd yn cyrraedd y rownd derfynol, fe fyddan nhw'n cwrdd â naill ai Efrog neu Luton Town.
Straeon perthnasol
- 10 Mawrth 2012