Busnes bwyd yn mynd i'r wal
- Cyhoeddwyd

Mae busnes bwyd o Landudno sydd wedi ennill gwobrau am eu cynnyrch wedi mynd i'r wal.
Roedd Mygdy Llandudno (Llandudno Smoakery) yn gwerthu eu cynnyrch i leoedd fel Selfridges yn Llundain, ond fore Gwener roedd y saith o staff oedd yn gweithio yno yn cludo'u heiddo o'r adeilad.
Ers dydd Llun mae diddymwyr wedi bod yn gyfrifol am y busnes, ac fe ddywedon nhw fod y busnes wedi mynd i drafferthion ariannol.
Mae'r busnes wedi bod yn gweithredu am dros chwarter canrif, ond cafodd ei brynu gan y perchnogion presennol yn 2005, cyn ehangu ac agor adeilad newydd gydag offer newydd.
Roedd y cwmni yn defnyddio derw i fygu bwyd a physgod, gan ennill Gwobrau Gwir Flas Cymru bob blwyddyn ers 2008 am eu cynnyrch.
Dywedodd y diddymwyr - cwmni UHY Hacker Young o Fanceinion - bod hynny wedi arwain at gostau cynhyrchu uwch, ond nad oedd gwerthiant y cwmni wedi cynyddu i ateb hynny.
Ychwanegodd y diddymwyr bod pump o fusnesau eraill wedi dangos diddordeb mewn symud i'r safle, a'i bod yn debygol y bydd rhyw fath o gwmni arlwyo yn parhau ar y safle.
Ond roedden nhw'n cadarnhau hefyd bod diwedd y busnes yn golygu diswyddo'r saith aelod o staff, a bod rhai o'r rheini wedi gweithio yno ers dros 20 mlynedd.