Cymru dan-20 16-36 Ffrainc dan-20

Ieuan Jones yn taclo'r Ffrancwr Julien Kazubek Image copyright Other
Image caption Ieuan Jones yn taclo'r Ffrancwr Julien Kazubek

Sgoriodd tîm dan 20 Ffrainc bum cais gan guro Cymru 36-16 ym Mharc Eirias, Bae Colwyn nos Wener.

Luke Morgan sgoriodd unig gais tîm dan 20 Cymru wrth iddynt golli gartref am y tro cyntaf eleni.

Sgoriodd Jefferson Poirot, Julien Kazubek, ac Eric Escande geisiau'r Ffrancod gan sicrhau eu bod ar y blaen 24-6 ar yr egwyl.

Sgoriodd Bastien Fuster a Darly Donvo geisiau'r ymwelwyr yn yr ail hanner.

'Sgiliau sylfaenol'

Ciciodd Esconde pedwar trosiad ac un gic gosb i'r Ffrancod.

Ciciodd y maswr, Sam Davies dair cic gosb a llwyddodd gyda throsiad yn dilyn cais Morgan.

Bu'n rhaid i hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, Danny Wilson wneud naw newid o'r tîm a gurodd Yr Eidal 30-23 nos Wener ddiwethaf,

"Roedd sgiliau sylfaenol Ffrainc yn llawer gwell," meddai.

PENCAMPWRIAETH Y CHWE GWLAD

CANLYNIADAU CYMRU-dan 20

Mawrth 16: Cymru 16-36 Ffrainc

Mawrth 9: Cymru 30-23 Yr Eidal

Chwefror 24: Lloegr 40-9 Cymru

Chwefror 10: Cymru 28-15 Yr Alban

Chwefror 3 Iwerddon 11-6 Cymru

CYMRU dan -20: Ross Jones (Gweilch), Iolo Evans (Scarlets), Luke Williams (Pen-y-bont), Owen Williams (Scarlets), Luke Morgan (Gweilch), Sam Davies (Gweilch), Jonathan Evans (Dreigiau), Rob Evans (Scarlets), Kirby Myhill (Capten) (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Jack Jones (Gweilch), Matthew Screech (Gleision), Ieuan Jones (Dreigiau, Dan Thomas (Scarlets), Dan Baker (Gweilch).

EILYDDION:Darran Harris (Gleision), Thomas Davies (Gleision), lGriff John (Gleision), Carwyn Jones (Scarlets Academy), Reuben Tucker (Gleision), Rhodri Williams (Scarlets), Jordan Williams (Scarlets), Cory Allen (Gleision).

FFRAINC dan -20: Theo Platon; Bastien Fuster, Jimmy Yobo, Jonathan Danty, Yohann Artru; Enzo Selponi, Eric Escande; Jefferson Poirot, Christopher Tolofua, Pascal Cotet, Bastien Chalureau, Andrew Chauveau, Julien Kazubek, Karl Chateau, Kelian Galletier.

EILYDDION: Jean-Charles Fidinde, Florian Fresia, Kevin Goze, Paul Jedrasiak, Tom Ecochard, Ilian Perraux, Darly Domvo, Stéphane Onambele Mbarga.