Y Seintiau yn ôl ar y brig
- Cyhoeddwyd

Castell-nedd 0-1Y Seintiau Newydd
Mae'r Seintiau Newydd yn ôl ar frig Uwchgynghrair Cymru ar ôl curo Castell-nedd 1-0.
Scott Ruscoe sgoriodd i'r ymwelwyr ar ôl 82' o funudau.
Cafodd Chris Jones o Gastell-nedd ei anfon o'r 53 munud ar ôl ei ail gerdyn melyn.
Llanelli 1-2 Y Bala
Ian Sheridan (21 munud) a Marc Connolly (45'+1) sgoriodd dwy gôl Y Bala i sicrhau buddugoliaeth yn Llanelli, y tîm sydd un safle yn uwch yn yr uwchgyngrhair.
Er i Danny Williams roi'r bêl drwy rwyd ei hun yn yr ail hanner doedd hynny ddim yn ddigon i'r tîm cartref.
Caerfyrddin 3-2 Y Drenewydd
Yn yr unig gêm arall i'w chwarae dydd Sadwrn roedd yna fuddugoliaeth 3-2 i Gaerfyrddin.
Roedd yr ymwelwyr 2-1 ar y blaen 19 munud cyn diwedd y gêm diolch i goliau Luke Boundford (31' a 71').
Roedd Paul Fowler wedi rhoi Caerfyrddin ar y blaen yn gynnar yn y gêm cyn i Boundford darro.
Fe wnaeth Dan MacDonald ddod a'r sgor yn gyfartal ar ôl 75 munud, gyda Fowler sgorio ei ail, a'r gôl fuddugol ar ôl 86 munud.
Nos Wener
Aberystwyth 1-1 Afan Lido
Prestatyn 0-4 Bangor
Dydd Sul
Port Talbot v Airbus UK (2.30pm)