Llunio map o enynnau cnwd ynni addawol

  • Cyhoeddwyd
Iain DonnisonFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y Dr Donnison fod y rhaglen wedi rhoi dealltwriaeth am sut yr esblygodd y rhywogaeth

Mae ymchwilwyr yng Nghymru ac Unol Daleithiau America wedi cydweithredu i gwblhau'r map manwl a chynhwysfawr cyntaf o enynnau cnwd ynni addawol o'r enw miscanthus.

Mae'r canlyniadau - a gyhoeddir yn rhifyn presennol y cyfnodolyn ar-lein o'r enw PLoS One a arolygir gan gyd-academyddion - yn gam ymlaen pwysig tuag at gynhyrchu bioynni.

Mae'r datblygiad newydd hwn yn deillio o gydweithredu sydd wedi'i hen sefydlu rhwng y cwmni cnydau ynni Ceres, Inc., sydd â'i bencadlys yng Nghaliffornia a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Tîm IBERS a greodd y casgliad o blanhigion sy'n gysylltiedig yn enynnol, ac aeth Ceres ati wedyn i ddilyniannu'r DNA a'i ddadansoddi.

Llunio glasbrint

Mewn cnydau eraill, mae'r math hwn o fapio genetig cynhwysfawr wedi golygu bod modd datblygu cynnyrch masnachol yn gyflymach o lawer.

Mae'r erthygl yn y cyfnodolyn yn disgrifio sut mae ymchwilwyr Ceres wedi mapio'r cyfan o'r 19 o gromosomau sydd ym miscanthus, sef math tal iawn o wair y gellid ei ddefnyddio fel deunydd crai i fiodanwyddau, biogynnyrch a bioynni.

Dros sawl blwyddyn, llwyddodd y prosiect hwn i greu mwy na 400 miliwn o ddilyniannau DNA, a'u dadansoddi, gan lunio glasbrint o adeiladwaith genynnol y planhigyn.

Ymhlith y swmp anferthol o ddata, daeth yr ymchwilwyr o hyd i 20,000 o wahaniaethau genynnol, o'r enw 'marcwyr', sy'n golygu bod genetegwyr yn gallu gwahaniaethu rhwng planhigion unigol ar sail amrywiadau bychain yn eu DNA.

Defnyddiwyd mwy na 3,500 o'r marcwyr hyn i lunio'r map genynnol, sydd yn arf gwerthfawr wrth ddatblygu cnydau.

Gellir cymharu hynny â'r prosiectau mapio blaenorol a gyhoeddwyd, a ddaeth o hyd i ddim ond rhyw 600 o farcwyr, ac nad oedden nhw wedi nodweddi strwythur holl gromosomau miscathus yn llawn, cam angenrheidiol os ydych am sefydlu rhaglen bridio planhigion uwch-dechnolegol.

'Dealltwriaeth o'r newydd'

Dywedodd Iain Donnison, pennaeth y tîm bioynni yn IBERS: "Mae'r rhaglen datblygu miscanthus ar y cyd â Ceres wedi rhoi dealltwriaeth o'r newydd am sut yr esblygodd y rhywogaeth yn ogystal â'r tebygolrwydd a'r gwahaniaethau yn y gwahanol boblogaethau a geir mewn gwahanol wledydd ac amgylcheddau.

"Cymerodd hi ddegawdau i gynhyrchu'r math hwn o gronfa helaeth o wybodaeth am gnydau eraill, ond gyda thechnoleg fiolegol a geneteg newydd, mae Ceres ac IBERS wedi rhoi at ei gilydd raglen bridio miscanthus ar sail marcwyr sydd, yn fy marn i, ymhlith y mwyaf cynhwysfawr yn y byd."

Cafodd yr ymchwil gydweithredol hon gyllid fel rhan o Ganolfan Bioynni Cynaliadwy y Cyngor Ymchwil i Fiotechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BSBEC).

Dywedodd yr Athro Douglas Kell, Prif Weithredwr y Cyngor Ymchwil i Fiotechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol: "Mae'r bartneriaeth hon rhwng academia a diwydiant yn gyfraniad sylweddol tuag at sicrhau deunydd crai cynaliadwy i ynni adnewyddadwy a chynnyrch eraill a geir o ffynonellau biolegol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol