Atal rhag bod ar y gofrestr

  • Cyhoeddwyd

Mae gweithiwr cymdeithasol wedi'i atal rhag bod ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o gamymddwyn gan Bwyllgor Ymddygiad Cyngor Gofal Cymru.

Cafodd Jino Philip, a gyflogwyd gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe, ei ddyfarnu'n euog o dorri'r Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol drwy fethu â chymryd camau priodol yn ymwneud â thri phlentyn.

Canfuwyd fod Mr Philip wedi torri tair adran o'r Côd Ymarfer, sy'n gofyn i ymarferwyr gynnal ffydd a hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol; ennyn a chadw ffydd a hyder defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr; a bod yn atebol am ansawdd eu gwaith a chymryd cyfrifoldeb dros gynnal a gwella'u gwybodaeth a'u sgiliau.

Cafodd Mr Philip, a oedd yn bresennol yn y gwrandawiad, ei ddyfarnu'n euog o dri o'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn, a bydd yn cael ei roi dan Orchymyn Atal am ddwy flynedd.

'Perygl sylweddol o niwed'

Bu'r Pwyllgor yn pwyso a mesur y ffaith i Mr Philip gydnabod bod angen iddo ymgynefino'n well â rhai cyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol - cyd-destunau nad oeddynt yn rhan o'i brofiad blaenorol ac felly nad oedd wedi'u deall yn ddigonol, ond cyd-destunau a oedd yn hanfodol i waith cymdeithasol effeithiol.

Daeth y pwyllgor i'r casgliad y gallai ymddygiad Mr Philip fod wedi rhoi'r defnyddwyr gwasanaethau mewn perygl sylweddol o niwed, ac na allai weithio'n ddiogel ar hyn o bryd am nad oedd ganddo ddealltwriaeth ddigonol o ofynion ymarfer da yng nghyd-destun amddiffyn plant.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y dylai Gorchymyn Atal dwy flynedd roi cyfle iddo fagu'r wybodaeth a'r sgiliau a nodwyd ganddo ei hun ac y gallai hynny ei alluogi i ddychwelyd i ymarfer yn ddiogel.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol